Hyrwyddwyr hanes lleol yn dysgu am arteffactau o'r Mwmbwls sydd wedi'u hailddarganfod
Mae archaeolegwyr sy'n gweithio ar gynllun i amddiffyn yr arfordir wedi esbonio rhai o'u canfyddiadau i archifwyr hanes lleol.
Aeth y gwesteion - o'r wefan The Story of Mumbles - ar daith i weld prosiect amddiffynfeydd môr y Mwmbwls sy'n gwneud y gymuned yn fwy diogel yn erbyn bygythiad stormydd a llanwau cynyddol.
Mae'r prosiect, a gwblheir y flwyddyn nesaf ac a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei arwain gan eich cyngor.
Mae Knights Brown, y prif gontractwr, yn gweithio'n agos drwy'r cynllun gydag arbenigwyr o gwmni arbenigol annibynnol, Archaeology Wales.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor, "Rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith gofalus, manwl ac arbenigol sy'n cael ei wneud gan Archaeology Wales a Knights Brown ar ran cenedlaethau'r dyfodol.
"Roedd yn braf rhoi cyfle i hyrwyddwyr hanes weld y canfyddiadau o lygad y ffynnon. Rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiadau terfynol yr archaeolegwyr - a morglawdd a phromenâd cryfach a gwell i'r Mwmbwls."
Croesawodd Paul W Huckfield, rheolwr prosiect Archaeology Wales, aelodau o dîm y wefan.
Mae'r canfyddiadau hyd yn hyn yn amrywio o welyau mawn i dyllau pyst ar gyfer sgaffaldwaith a wnaeth helpu i adeiladu'r morglawdd yn oes Fictoria.
Mae'r canfyddiadau wedi cynnwys gwaelodion dwy long wystrys bren fawr. Tynnwyd lluniau o olion y ddwy long a chawsant eu cofnodi cyn eu claddu o'r newydd.
Roedd masnach wystrys y Mwmbwls ar ei hanterth yn ystod y 1850au. Erbyn y 1920au, roedd wedi crebachu a gadawyd y cychod arbenigol - sef sgiffiau - a oedd bellach yn ddiwerth ar y traeth.
Meddai Mr Huckfield, "Mae blaendraeth y Mwmbwls yn amgylchedd sy'n newid o hyd. Mae ei lanwau, ei dywod, ei fawn a'i laid yn creu heriau i'r astudiaeth hon, ond rwy'n hyderus y bydd ein gwaith yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall yn well berthynas enwog yr ardal â'r môr."
Meddai Beverley Rogers, o The Story of Mumbles, "Gwnaeth ein haelodau fwynhau profiad cofiadwy, yng nghwmni gweithwyr proffesiynol gwybodus; mae gennym ddealltwriaeth well erbyn hyn o hanes byw ein blaendraeth dros yr oesoedd.
"Roedd yr ymweliad yn hynod ddiddorol. Byddwn yn ychwanegu manylion a lluniau at ein gwefan."
Roedd Gower Unearthed, cwmni buddiannau cymunedol, ymysg y rhai hynny a wnaeth helpu i greu'r wefan.
Mae archaeoleg yn gwneud cyfraniad allweddol at y cynllun i amddiffyn y môr, wrth ei gynllunio a'i ddatblygu.
Mae'r arbenigwyr yn helpu i warchod yr eitemau hirgolledig, eu cadw drwy wneud cofnodion manwl, tynnu lluniau ohonynt a chyhoeddi adroddiadau maes o law.
Yn y Mwmbwls, maent yn gwerthuso ac yn dadansoddi'r gwaith, ac mae arbenigwyr eraill yn mynd â deunydd allweddol ymaith i'w astudio.
Ychwanegir adroddiadau at yr archif gyhoeddus sydd ar gael am ddim ar wefan Archwilio.
Meddai Neil Chambers, rheolwr prosiect Knights Brown, "Tynnodd ymweliad aelodau'r wefan sylw at bwysigrwydd cadw ein treftadaeth arfordirol a gwnaeth helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gyfranogiad cymunedol wrth i ni weithio i ddiogelu ein hamgylchedd a'i hanes cyfoethog."
Meddai Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud drwy'r cynllun i amddiffyn arfordir y Mwmbwls a'r hyn sydd wedi cael ei ddarganfod wrth wneud yr ardal yn fwy diogel rhag llifogydd."
Llun: Dangosir olion cwch o hen fflyd wystrys y gymuned i aelodau'r wefan The Story of Mumbles.