Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion i ymuno â seremoni Diwrnod Coffáu'r Holocost

Bydd disgyblion o chwe ysgol yn Abertawe yn bresennol mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas ar 27 Ionawr wrth i'r ddinas nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.

Guildhall main

Mae'n seremoni goffáu flynyddol ryngwladol sy'n cofio'r rheini a gollodd eu bywydau oherwydd hil-laddiad.

Y thema ar gyfer eleni yw Pobl Gyffredin - gan fyfyrio ar sut roedd pobl gyffredin yn gyflawnwyr, yn wylwyr, yn achubwyr, yn dystion ac yn ddioddefwyr yr Holocost Natsïaidd yn yr Almaen a'r hil-laddiadau a ddigwyddodd mewn gwledydd fel Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Bydd Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, Arglwydd Faer Abertawe, Mike Day a Hyrwyddwr Hawliau Dynol y cyngor, Lousie Gibbard, yn ymuno â'r disgyblion.

Bydd y Prif Arolygydd Declan Cahill o Heddlu De Cymru yn darllen Addewid Cymru Gyfan tra bydd Norma Glass, MBE, un o arweinwyr cymuned Iddewig Abertawe, yn dod â'r digwyddiad i ben.

Close Dewis iaith