Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa gwerth miliynau o bunnoedd yn ceisio mynd i'r afael â digartrefedd

Bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd, pobl ifanc sy'n agored i niwed sy'n chwilio am rywle i fyw a'r rheini sydd mewn perygl o golli eu cartref yn elwa o gynllun newydd gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn mynd i'r afael â digartrefedd.

homeless hub

homeless hub

Wrth i Abertawe adfer o'r pandemig bydd ei addewid 'gwely ar gael bob amser' hir sefydlog i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn parhau dan gynigion a fydd yn cael eu hybu eleni gan £4.4 miliwn o gyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar gynllun gweithredu sy'n ceisio ailgartrefu pobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl sydd wedi colli'u cartrefi'n gyflym, gan ddarparu rhagor o gymorth i bobl ifanc sy'n cael trafferth dod o hyd i rywle i fyw ac atal digartrefedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid, fod y cyngor yn ystod y pandemig wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy'n agored i niwed i sicrhau bod rhywle iddynt aros bob amser.

Meddai, "Nawr, wrth i'r argyfwng costau byw ddechrau gael effaith wael ac wrth i rai pobl wynebu'r perygl o orfod dewis rhwng talu eu rhent neu eu morgais a rhoi bwyd ar y bwrdd, byddwn yn sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar waith ar gyfer y bobl hynny y mae ei hangen arnynt."

Mae menter Rhagor o Gartrefi'r cyngor hefyd yn rhan o'r strategaeth, menter sy'n ceisio adeiladu cenhedlaeth o 1,000 o gartrefi cyngor fforddiadwy, ynni isel i'w rhentu dros y degawd cyfredol.

Ar ben hynny y mae'r rhaglen ailgartrefu cyflym, menter a gefnogir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio sicrhau bod pobl ddigartref yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir ac yn y ffordd gywir fel y daw cartref diogel yn sylfaen iddynt ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Meddai'r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, "Rydym wedi sicrhau bod gan deuluoedd, pobl ifanc, pobl â phroblemau iechyd meddwl a phobl sy'n cysgu ar y stryd wedi gallu dweud eu dweud am y strategaeth. Mae'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd yn ymateb i'w hanghenion yn uniongyrchol.

"Mae hefyd lawer o waith i'w wneud ac yn yr argyfwng costau byw rydym yn disgwyl i'r galw am ein gwasanaethau digartrefedd gynyddu. Ond, ein huchelgais gyffredinol yw y dylai digartrefedd fod yn brin, yn fyr ac yn brofiad na chaiff ei ailadrodd."

"Roedd creu'r strategaeth hon yn un o'r ymrwymiadau polisi a wnaed gennym fel cyngor ym mis Gorffennaf yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni o fewn 100 o ddiwrnodau."