Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cefnogaeth i'r diamddiffyn ar flaenau'ch bysedd

Mae gwybodaeth am fwy na 100 o sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddiamddiffyn a'r rheini mewn angen yn Abertawe bellach ar ap ffôn clyfar am ddim, sef y cyntaf o'i fath yn y DU.

Rob Stewart visits Matthew's House

Rob Stewart visits Matthew's House

Mae'r ap Gobaith yn Abertawe yn nodi'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer tai, iechyd meddwl, tlodi bwyd, teimlo'n ynysig, cam-drin, ceisio lloches, gwahaniaethu, neu hyd yn oed cawod gynnes, gydag ychydig o gliciau syml.

Sefydlwyd yr ap gan Matthew's House, diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Abertawe, Cymdeithas y Plant a chynllun Cyfeillion Matthew's House.

Cafodd ei lansio ym mis Awst ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio bob dydd gan bobl y mae angen cymorth arnynt a'r rheini sy'n ceisio'u helpu fel cyfeirlyfr cyfredol o wasanaethau a gwybodaeth sy'n cynnwys lleoliadau, oriau agor a chysylltiadau brys.

Ymwelodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, â'r elusen yr wythnos hon wrth iddi baratoi ar gyfer y Nadolig.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Rwy'n falch iawn bod yr ap Gobaith yn Abertawe yn profi'n llwyddiannus ac yn ei gwneud yn haws o lawer i gysylltu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt â'r rheini sy'n ei darparu.

"Mae hi bob amser yn anhygoel gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yn Matthew's House ac mae'n rhywle rydyn ni wedi'i gefnogi fel cyngor ers nifer o flynyddoedd.

"Rydyn ni fel cyngor wedi gwneud yr addewid fod gwely ar gael bob amser eto eleni ond bydd 'na bobl nad ydyn nhw am dderbyn y cynnig hwnnw, ac mae lleoedd fel Matthew's House gyda Matt's Cafe yn gwneud gwaith gwych wrth sicrhau eu bod nhw a phobl ddiamddiffyn eraill yn cael eu cefnogi. "

Ar gyfer unrhyw sefydliadau eraill sy'n dymuno cymryd rhan, cysylltwch â Matthew's House yn uniongyrchol yn  hopeinswansea@matthewshouse.org.uk i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i  hopeinswansea.org.uk