Gorffennol y ddinas yn helpu i greu dyfodol gwell
Mae atgofion trawiadol o orffennol Abertawe'n chwarae rôl newydd wrth helpu pobl i fyw'n dda gyda dementia.
Mae'r arteffactau - sy'n cael eu harddangos yng Nghanolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe a reolir gan y cyngor - ymysg y trysorau treftadaeth ar adran Gymreig newydd adnodd ar-lein llwyddiannus.
Mae trysorau fel cap Ysgol Ramadeg Abertawe y bardd Dylan Thomas a chasgliad o ddefnyddiau traul y cartref wedi'u pecynnu ymysg yr eitemau diweddaraf i gael sylw ar yr ap fel rhan o rhaglen hyfforddi ymwybyddiaeth dementia, Tŷ Atgofion.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliot King, "Mae'n wych bod rhai o'n trysorau gwych o'r gorffennol bellach yn helpu pobl i fyw dyfodol gwell.
"Rwy'n annog unrhyw ofalwr sy'n wynebu her dementia i gael rhagor o wybodaeth am Tŷ Atgofion."
Mae Tŷ Atgofion yn cynnig hyfforddiant, adnoddau a gweithgareddau i alluogi gofalwyr i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl fyw'n dda gyda dementia.
Mae Tŷ Atgofion Cymru yn rhaglen ddwyieithog o weithdai, hyfforddiant ac atgofion digidol sydd â'r nod o helpu i sbarduno sgyrsiau rhwng pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
Mae adran Gymreig ap y fenter newydd gael ei lansio. Mae'n cynnwys atgofion o Gymru, Cymry a'u cymunedau.
Mae Tŷ Atgofion Cymru bellach yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru, gyda hyfforddiant a gweithdai i ddefnyddwyr fel staff gofal cymdeithasol ac ar gyfer ffrindiau a theulu. Cynhelir y sesiynau yn Amgueddfa Abertawe ar 25 a 26 Hydref.
Mae atgofion yn cael eu hysgogi yn yr ap gyda chymysgedd o sain, fideo a delweddau o eitemau hanesyddol.
Mae Tŷ Atgofion Cymru ar gael drwy ap My House of Memories, National Museums Liverpool.
Meddai Carol Rogers, CyfarwyddwrNational Museums Liverpool, "Rydym yn falch iawn o lansio Tŷ Atgofion Cymruac ychwanegu pecyn Cymreig pwrpasol at ein rhaglen ryngwladol, Tŷ Atgofion.
Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden, "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Tŷ Atgofion Cymru sy'n dathlu diwylliant Cymru a'r rôl amhrisiadwy y mae amgueddfeydd Cymru yn ei chwarae wrth gefnogi pobl hŷn a'r rheini sy'n byw gyda dementia.
Llun: Eitemau Gwasanaeth Amgueddfeydd Abertawe - ymysg yr arteffactau a gafodd sylw ar ap Tŷ Atgofion Cymru - Cap Ysgol Ramadeg Dylan Thomas.