Gwasanaethau Tai yn symud o'r Stryd Fawr i'r Storfa
Bydd Gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai Cyngor Abertawe'n symud o'u lleoliad presennol ar y Stryd Fawr i ddatblygiad newydd Y Storfa yng nghanol y ddinas yn hwyrach eleni.


Bydd dyddiad agor ar gyfer yr hwb gwasanaethau cymunedol sy'n gwneud cynnydd da yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen yn cael ei gadarnhau cyn bo hir.
Bydd y Gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai yn parhau i fod ar agor ac ar gael drwy gydol y symud - yn eu swyddfa ar y Stryd Fawr nes iddynt symud i'r Storfa, ac wedyn yn Y Storfa ei hun.
Meddai'r Cyng. Andrea Williams, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Bydd datblygiad Y Storfa ar Stryd Rhydychen yn hwb modern a hygyrch sy'n dod ag amrywiaeth o wasanaethau cymunedol ynghyd o dan yr unto yng nghanol Abertawe.
"Fe'i dyluniwyd er mwyn ei gwneud yn haws i breswylwyr gael yr holl help y mae ei angen arnynt mewn un lleoliad cyfleus.
"Bydd ein timau Opsiynau Tai a Chymorth Tai ymysg y rheini a fydd yn gweithio yn y datblygiad newydd - a bydd y gwasanaethau hanfodol maent yn eu darparu yn parhau i fod ar agor drwy gydol y symud.
"Byddwn yn cadarnhau dyddiad agor ar gyfer Y Storfa yn ogystal â'r diwrnod olaf y bydd y Gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai yn gweithredu o'u lleoliad presennol ar y Stryd Fawr cyn gynted ag y bydd y manylion wedi'u cadarnhau."
Mae'r Gwasanaeth Opsiynau Tai yn canolbwyntio ar atal digartrefedd lle bynnag y bo modd. Mae'r tîm yn cynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a dod o hyd i lety amgen addas.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Tai yn darparu cymorth am ddim mewn perthynas â thai i unrhyw un 16 oed ac yn hŷn sy'n byw yn Abertawe.
Mae hyn yn cynnwys help gyda chyllidebu, hawlio budd-daliadau, rheoli ôl-ddyledion rhent, sefydlu cartref, cael mynediad at addysg neu waith, a mynd i'r afael â materion fel cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/ystorfa am ragor o wybodaeth am gynllun Y Storfa a gwasanaethau eraill a fydd yn cael eu lleoli yno.