Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynigion dylunio cyntaf yn cael eu datgelu ar gyfer hwb gwasanaethau lleol canol y ddinas

Datgelwyd y dyluniadau arfaethedig ar gyfer lleoliad canolog newydd yn Abertawe ar gyfer prif lyfrgell y ddinas a gwasanaethau allweddol eraill.

City Centre Hub Architect Drawing

Mae'r dyluniadau gan y penseiri Austin-Smith: Lord Ltd, ar ran y cyngor, yn datgelu golwg newydd ar gyfer hen adeilad BHS/What!

Maent yn ymddangos mewn dogfen newydd sy'n cefnogi cais y cyngor i newid defnydd yr adeilad o fod yn siop i hwb cymunedol.

Mae'r ddogfen ddylunio'n dweud y dylai golwg yr adeilad ar ei newydd wedd, a adeiladwyd yn y 1950au, gael "effaith" sy'n briodol ar gyfer adeilad cyhoeddus, gyda thu blaenau siopau agored a gweithredol i gynnal bywiogrwydd Stryd Rhydychen a Princess Way.

Cynigir bod y tu allan i'r llawr gwaelod yn cynnwys ffenestri'n bennaf a bod y lloriau uchaf yn cynnwys ffenestri gwydrog mawr i ddangos gweithgarwch ac ethos croesawgar.

Y bwriad yw y bydd cladin yn rhoi golwg fwy cyson i'r adeilad nag ar hyn o bryd. Gellid goleuo cladin tryloyw o'r tu ôl i weithredu fel goleufa i helpu i ddenu ymwelwyr.

Mae cynigion i gael wal werdd a phlanhigion ar ardal y to.

Y tu mewn, byddai'r llyfrgell yn gweithredu fel "asgwrn cefn" a byddai grisiau canolog crand trawiadol.

Y dyluniad yw'r cam diweddaraf yn y prosiect lle dechreuodd contractwyr waith paratoadol y mis diwethaf (sylwer: mis Hydref).

Disgwylir i'r adeilad fod yn hwb gwasanaethau lleol mewn llai na dwy flynedd. Yn ôl y cynigion presennol bydd yn cynnig mynediad hawdd at wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys y llyfrgell y disgwylir iddi symud o'r Ganolfan Ddinesig. Bydd ystod o wasanaethau eraill yn ymuno â hi - a gallai'r hwb gynnig mynediad o bosib at Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Bydd y cais ar gyfer newid defnydd yn cael ei ystyried yn awr gan gynllunwyr Abertawe.

Bydd y cyhoedd, yr ymgynghorwyd â hwy eisoes am y cysyniad gwreiddiol, yn gallu dweud eu dweud ar y cynllun newid defnydd yma - www.bit.ly/HubApplic

Llun: Sut y gallai hwb cymunedol newydd canol dinas Abertawe edrych. Llun: Austin-Smith:Lord Ltd

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith