Gwaith ymchwilio safle ar gyfer datblygiad newydd yng nghanol y ddinas
Bydd gwaith ymchwilio safle'n cael ei wneud yn fuan cyn bwrw ati i adeiladu datblygiad swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe.


Disgwylir i'r gwaith yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant ddechrau ddydd Llun 17 Mawrth a gallai gymryd dros wythnos i'w gwblhau.
Bydd y gwaith yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cynllun hwb sector cyhoeddus newydd â'r nod o helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y ddinas.
Bydd ffensys yn cael eu gosod o gwmpas yr ardal laswelltog y tu allan i Neuadd Eglwys Dewi Sant wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen a gwneir pob ymdrech i leihau tarfu.
Bydd yr hwb sector cyhoeddus yn cynnwys arwynebedd llawr masnachol ar gyfer siopau a bwytai ar y llawr gwaelod. Bydd Cyngor Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid sector cyhoeddus yn meddiannu'r swyddfeydd uwchlaw.
Bydd cannoedd o weithiwyr yn gweithio yn yr hwb sector cyhoeddus a fydd yn cynnwys pedwar llawr uwchben y ddaear ac un llawr islaw.
Bydd y cyngor a'i bartneriaid adfywio, Urban Splash, yn datblygu'r adeilad newydd arfaethedig a fydd dan berchnogaeth y cyngor.
Hwn fyddai cam cyntaf y broses o ailddatblygu'r safle'n gyffredinol dan arweiniad Urban Splash, sy'n parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y safle.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym am i ganol ein dinas lwyddo a chael mwy o siopau a busnesau eraill, ond rydym yn gwybod bod angen mwy o ymwelwyr i gefnogi ei masnachwyr presennol a denu buddsoddiad newydd.
"Nid yn Abertawe'n unig y gwelir hyn - mae'r un peth yn digwydd yng nghanol llawer o drefi a dinasoedd eraill ledled y DU oherwydd heriau fel siopa ar-lein.
"Bydd cynlluniau fel yr hwb sector cyhoeddus yn cyfuno â llawer o rai eraill i leoli miloedd yn rhagor o swyddi yng nghanol y ddinas, a fydd yn helpu i roi hwb i wariant yno ac annog mwy o siopau i agor.
"Bydd y cynllun hwn hefyd yn galluogi ailddatblygiad safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr. Mae ein partneriaid adfywio, Urban Splash yn gweithio ar gynigion manwl ar gyfer y safle hwnnw a chaiff y rhain eu cyhoeddi cyn gynted ag y cânt eu gorffen."
Mae gwaith ymchwilio safle paratoadol o'r math hwn yn rhan arferol o gynlluniau adeiladu prosiectau mawr.
Rhagwelir y bydd y gwaith i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus yn dechrau ar y safle erbyn diwedd 2025.