Cymorth grant yn helpu i ddod â bywyd newydd i adeilad diddefnydd
Mae rhannau diddefnydd o adeilad ar stryd fawr wedi cael eu hailwampio gyda help cyllid grant.
Roedd llawr gwaelod 82-84 St Teilo Street, Pontarddulais, wedi bod yn wag ers tua pedair blynedd nes i'r adeilad gael ei brynu a'i drawsnewid gan y cwmni o Abertawe, Our Health Pharma Investments.
Bydd ei ddefnydd newydd - fel canolfan lles cymunedol Hyb SA4 - yn helpu i adfywio'r ardal, yn creu swyddi ac yn cadw miloedd o breswylwyr lleol yn iach ac yn heini.
Meddai Emjad Dubaissi, yn o berchnogion yr adeilad, "Rwy'n falch iawn bod amrywiaeth o grantiau wedi ein helpu i drawsnewid yr adeilad hwn ac wedi rhoi hwb i adfywio'r ardal."
Mae'r unedau preswyl ar y llawr cyntaf yn cael eu defnyddio o hyd.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi gallu cefnogi'r datblygiad gyda nifer o grantiau. Rydym yn cynnig cymorth ariannol ar draws amrywiaeth eang o swyddogaethau."
Roedd siop Co-op ar lawr gwaelod yr adeilad yn St Teilo Street yn flaenorol, ond nid oedd yn cael ei defnyddio mwyach. Roedd y perchnogion newydd wedi sicrhau'r cyllid grant drwy'r Cyngor. Y cyfanswm oedd tua £130,000.
Roedd yn cynnwys £80,000 gan gynllun Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ac oddeutu £50,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Ynghyd â swm chwe ffigur a fuddsoddwyd gan y busnes gyda chymorth Rheolwr Cysylltiadau NatWest, Paul Dunne, mae'r arian wedi hwyluso'r gwaith o drawsnewid yr adeilad, gosod paneli solar ac wedi helpu i roi hwb i dwf busnesau.
Meddai Paul Dunne, "Roedd NatWest yn falch iawn o helpu prosiect sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r gymuned leol."
Mae'r adeiladau bellach yn cael eu defnyddio gan Medihub Pharmacy, Dental Suite Swansea ac Evans and Hughes Opticians. Mae cynlluniau i gynnwys practis meddyg teulu hefyd.
Mae'r fferyllfa a'r optegydd wedi symud o fangreoedd llai ar yr un stryd. Mae'r gwasanaeth deintyddol yn newydd i Bontarddulais ac yn ychwanegol i leoliad y busnes yn y Mwmbwls.
Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, "Rydw i mor falch o weld sut mae ein Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi wedi helpu i gefnogi trawsnewidiad yr adeilad masnachol gwag hwn."
Llun: Emjad Dubaissi yng nghanolfan lles cymunedol Hyb SA4 ym Mhontarddulais.