Miloedd o bobl i gymryd rhan mewn IRONMAN 70.3 Abertawe
Bydd dros 2,500 o athletwyr yn dod i Abertawe ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe a gynhelir ddydd Sul 13 Gorffennaf.


Rydym wedi gwerthu pob tocyn cyffredinol ar gyfer y digwyddiad.
Bydd athletwyr o bob cwr o'r byd yn dod i rasio, gyda nifer o'r bobl sy'n cystadlu'n dod o Abertawe.
Bydd dros dri o bob pedwar sydd wedi cofrestru ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe'n cystadlu am y tro cyntaf.
Ar y diwrnod hwn byddwn yn cynnal cystadleuaeth IRONMAN Pro Series gyntaf y DU lle bydd treiathletwyr proffesiynol gorau'r byd gystadlu.
Bydd athletwyr yn nofio 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, yn beicio 56 milltir drwy'r Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr ac yn rhedeg cwrs dwy lap 13.1 milltir o'r ddinas i'r Mwmbwls ac yn ôl.
Meddai cyfarwyddwr y ras, Rebecca Sutherland, "Rydym yn gyffrous iawn ein bod ni wedi gwerthu pob tocyn cyffredinol ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe unwaith eto. Mae'n dystiolaeth o ansawdd y ras a'r ddinas lle gynhelir y ras, sef Abertawe."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Mae'n gyffrous iawn bod y digwyddiad wedi cael ei uwchraddio i'r ras IRONMAN Pro Series fawreddog. Bydd yn dod â rhagor o sylw rhyngwladol at ein dinas."
Mae IRONMAN 70.3 yn denu miloedd o athletwyr a gwylwyr, gan roi hwb i'r economi leol ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i'w mwynhau.
Os nad ydych chi wedi llwyddo i gael tocyn ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe, ond rydych chi am gymryd rhan, gallwch gofrestru gyda phecyn profiad athletwyr uwch Nirvana. Rhagor o wybodaeth.