Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwyddoniaeth a chelf yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys un o ddirgelion Abertawe

Mae gwyddonwyr ac arbenigwyr celf o Abertawe wedi dod ynghyd i ddatrys dirgelwch un o baentiadau hanesyddol y ddinas.

Young Lady Portrait

Young Lady Portrait

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe ac Oriel Gelf Glynn Vivian y cyngor wedi gweithio gyda'i gilydd i sefydlu ffeithiau allweddol am yr olew - gan gynnwys hunaniaeth yr artist.

Roedd eu gwaith manwl yn cynnwys dadansoddiad manwl gywir o ychydig o'r paent yn ogystal ag atgyweiriadau gofalus i'r ddelwedd.

Mae'r oriel yng nghanol y ddinas bellach yn cynnal arddangosfa newydd - Indigo: Collections, Conservation, Chemistry - sy'n cynnwys y paentiad ac yn adrodd ei hanes. Mae'r paentiad yn dyddio o ddiwedd y 17eg ganrif neu ddechrau'r 18fed ganrif.

Meddai aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae'r ymchwil ar y prosiect hwn wedi bod yn ganmoladwy ac mae wedi helpu i ddatrys dirgelwch sy'n dyddio'n ôl dros ganrif.

"Rwy'n gobeithio y bydd gan bobl ddiddordeb ac y byddant yn ymweld â'r arddangosfa i gael y stori gyfan!"

Rhestrwyd y paentiad yng nghatalog gwreiddiol Oriel Glynn Vivian ym 1911 fel Y Frenhines Anne fel Tywysoges gan Syr Peter Lely.

Dechreuodd ymchwiliad nifer o flynyddoedd yn ôl, gyda swyddog cadwraeth yr oriel, Jenny Williamson yn glanhau ac adfer y cynfas yn ofalus. 

Canfuwyd hunaniaeth y peintiwr gyda chymorth archifau a chemeg ddadansoddol. Defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau, yn benodol wrth astudio pigment glas o ffrog y fenyw ifanc.

Gweithiodd gwyddonwyr Prifysgol Abertawe, Dr Cecile Charbonneau, Dr Ann Hunter a Katie Hebborn, myfyriwr PhD, gyda Jenny i benderfynu ar natur gemegol y pigmentau. Gwnaethant gynnig cliwiau a oedd yn hanfodol wrth ddarganfod hunaniaeth y peintiwr.

Erbyn hyn, tybiwyd taw'r peintiwr portreadau Michael Dahl (1659-1743), a anwyd yn Sweden, yw'r artist ac mae'r oriel yn newid ei deitl i Portread o Fenyw Ifanc o Lys y Frenhines Anne. Caiff ei arddangos yn yr arddangosfa newydd.

Meddai Jenny Williamson, "Teimlaf yn freintiedig fy mod i wedi gallu gwneud y gwaith cadwraeth, sydd wedi datgelu ansawdd a lliwiau'r paentiad hwn."

Meddai'r swyddog ymchwil Dr Hunter, "Mae gweithio gyda'n gilydd fel tîm wedi dangos pa mor amlddisgyblaethol y gall celf a gwyddoniaeth fod."

Meddai'r uwch-ddarlithydd Dr Charbonneau, "Roedd prosiect y Glynn Vivian yn ffordd i mi ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig a dadansoddi celf unwaith eto, sy'n rhywbeth a oedd yn annwyl iawn i mi."

Mae'r arddangosfa newydd yn bartneriaeth rhwng y Glynn Vivian a Phrifysgol Abertawe. Fe'i hariannwyd drwy grant gan Gronfa Allgymorth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, gyda chefnogaeth gan yr oriel, y cyngor, SPECIFIC, Beacon, a'r brifysgol gyda chefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Indigo: Collections, Conservation and Chemistry - Glynn Vivian, 15 Medi - 27 Chwefror, Mynediad am ddim, www.glynnvivian.co.uk

Llun:Paentiad Portread o Fenyw Ifanc o Lys y Frenhines Anne.

 

 

 

Close Dewis iaith