Toglo gwelededd dewislen symudol

Ingrid Murphy: Gwobr Wakelin

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2022.

Ceramics by Ingrid Murphy

Ceramics by Ingrid Murphy

Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y mae ei waith yn cael ei brynu ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.

Derbynnydd Gwobr Wakelin 2022 yw Ingrid Murphy.

Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Cinzia Mutigli ac Anya Paintsil.

Dewisydd eleni yw Catrin Webster. Y detholwr eleni yw Catrin Webster, artist a arthro o Abertawe, sydd wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n gyn-enillydd y wobr - fe'i dewiswyd 14 o flynyddoedd yn ôl.

Meddai Catrin Webster"Fel artist ac addysgwr sy'n dod o Abertawe, mae'r Glynn Vivian yn rhan mor bwysig o'm profiad diwylliannol. Mae'r cyfuniad o arddangosfeydd cyfoes a'r casgliad hanesyddol yn ffynhonnell ysbrydoliaeth enfawr i mi a llawer o bobl eraill yn y ddinas a thu hwnt, gan gynnwys artistiaid a myfyrwyr. Roeddwn i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i enwebu artist ar gyfer Gwobr Wakelin, ac roeddwn i hefyd yn ymwybodol o'r cyfle a'r cyfrifoldeb i awgrymu artist y bydd ei waith yn dod yn rhan o'r casgliad, a ffabrig ein diwylliant a'n treftadaeth gyfoes.

Mae traddodiad hanesyddol o gerameg yng Nghymru, sydd wedi'i gynrychioli yng nghasgliad y Glynn Vivian, ac mae hefyd ddiwylliant cyfoes gwych yng Nghymru lle caiff cerameg eu defnyddio a'u hailddychmygu er mwyn cwmpasu perthnasedd a dichonoldeb, gan ddefnyddio'r cyfrwng mewn ffordd ehangach sy'n cynnwys arbrofi trawsddisgyblaethol ac yn arwain at ganlyniadau rhyfeddol. Mae Ingrid Murphy wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hyn drwy ei haddysgu ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a'i gwaith celfydd, chwareus sy'n ysgogi'r meddwl, sy'n aml yn adrodd hanes cerameg poblogaidd yn y traddodiad Cymreig. Rwyf wedi enwebu Ingrid oherwydd, yn fy marn i mae angen i arwyddocâd ei chyfraniad i ddiwylliant gweledol yng Nghymru gael ei gynrychioli yn ein casgliadau cenedlaethol."

 

Mae Ingrid Murphy'n gweithio fel artist ceramig, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ychwanegu at arteffactau ceramig gydag amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol. Drwy ei gwaith mae hi'n datblygu ac yn chwarae gyda ffiniau deunydd ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol a chwareus ar gyfer ymwelwyr yr oriel. Mae hi'n defnyddio sain, hiwmor ac elfennau hunangofiannol, gan greu gweithiau ceramig diddorol, sydd hefyd yn dod â hanesion hanesyddol a chymdeithasol dyfnach gwrthrychau ceramig a'u defnydd bwriadedig yn fyw. Ganed Ingrid Murphy yn Iwerddon, astudiodd Gerameg a Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf a Dylunio Crawford a chwblhaodd radd Meistr mewn Cerameg yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.Ar hyn o bryd hi yw'r Prif Ddarlithyddar gyfer Trawsddisgyblaethedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

Meddai Ingrid Murphy, "Rwy'n falch iawn o dderbyn Gwobr Wakelin eleni, ac mae'n anrhydedd mawr i fod yn ymuno â'r grŵp mawreddog o enillwyr blaenorol. Mae Gwobr Wakelin yn galluogi'r amgueddfa i ddatblygu casgliad cynyddol sy'n dathlu arfer artistig gwirioneddol amrywiol Cymru ac mae'n fendigedig ac yn galonogol cael y math hwn o gydnabyddiaeth am fy ngwaith. Fel un sy'n gwneud gwrthrychau rhyngweithiol, mae hefyd yn bleser gwybod y bydd y gwaith yn cael ei arddangos i'w rannu'n llawn â'r cyhoedd yn Oriel Gelf Glynn Vivian.

 

"Diolch o galon i'r dewisydd ac enillydd blaenorol Gwobr Wakelin, Catrin Webster, ac i Gyfeillion y Glynn Vivian a'r teulu Wakelin am eu cefnogaeth barhaus i'r wobr."

 

Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian sy'n gyfrifol am weinyddu'r wobr hon ac fe'i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a'u mab Martin, a oedd hwythau'n artistiaid ac yn gefnogwyr brwd o'r celfyddydau yn Abertawe.

Meddai Dr Peter Wakelin,"Ar ôl byw yn Abertawe am bron 40 o flynyddoedd, mae ein teulu wir yn gwerthfawrogi casgliad sefydledig yGlynn Vivian, yn ogystal â'r gelf newydd a oedd yn cael ei chreu. Treuliodd fy rhieni lawer o amser yn yr Oriel a chyda'r Cyfeillion. Byddent yn falch iawn o weld artistiaid sy'n dangos cymaint o ddiddordeb yn cael eu cynrychioli yn y casgliad, diolch i'r cynllun gwobr hwn."

 

Meddai Jayne Woodman, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian,"Mae Gwobr Wakelin, sydd bellach yn ei 22ain flwyddyn, yn cynnig cydnabyddiaeth ariannol i artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes a'r pleser o fod yn rhan o gasgliad parhaol y Glynn Vivian. Mae gwaith Ingrid Murphy, enillydd 2022, yn ychwanegiad gwych, mae'n anrhydedd gallu rhannu'r gwaith hwn â chynulleidfaoedd eang yr oriel. Mae Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian wedi gweithio mewn partneriaeth â Peter Wakelin a'i deulu ers 2000 pan lansiwyd y wobr bwysig hon; gan alluogi cefnogaeth barhaus ar gyfer yr oriel; ei chynulleidfaoedd a llawer o artistiaid ledled Cymru.

 

Meddai KarenMackinnon, Curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, "Rydym yn falch iawn o allu ychwanegu gwaith Ingrid at y casgliad parhaol ac rydym yn ddiolchgar iawn i Peter Wakelin a gweddill y teulu Wakelin, a Chyfeillion y Glynn Vivian, am wneud y cyfan yn bosib. Mae'r celfweithiau y gallwn eu prynu yn archwilio elfennau allweddol y mae'n dychwelyd iddynt yn ei hymarfer gan gynnwys y rhyngwyneb rhwng cerameg a thechnoleg ac maent yn annog ymgysylltiad chwareus â'r rheini sy'n profi ei gwaith. Mae ansawdd hunangofiannol hefyd i rai o'i gweithiau sy'n cyd-fynd â hanes ehangach y gweithiau cerameg eu hunain sy'n gwbl berthnasol i'r casgliad o gerameg. Diolch yn fawr iawn i Ingrid am y gwaith gwych hwn ac i Catrin am fod yn ddewisydd mor ystyriol."

 

Gweinyddir Gwobr Wakelin gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe'i cefnogir yn hael gan roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.

 

Close Dewis iaith