Cyfle i arddangoswyr hyrwyddo'u busnesau mewn digwyddiad mawr yn Abertawe
Mae digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yn Abertawe fis nesaf i arddangos cymuned fusnes y ddinas.
Mae digwyddiad Introbiz Expo 2023 Abertawe a Gorllewin Cymru, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn ddydd Iau 26 Hydref, yn cael ei drefnu gan Introbiz Abertawe a Gorllewin Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.
Rhoddir sylw i brosiectau yn yr ardal leol fel rhan o'r digwyddiad hefyd, a gynhelir rhwng 10am a 5pm.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys ardal ar gyfer 70 arddangoswr, parth ar gyfer busnesau newydd, seminarau a phrif siaradwyr.
Bydd Google hefyd yn bresennol i arddangos a chyflwyno gweithdy.
Ymhlith y prif siaradwyr fydd Kelli Aspland a Laura Waters o Solar Buddies - cwmni sydd wedi sicrhau buddsoddiad gan Debra Meaden a Peter Jones ar Dragon's Den BBC One yn ddiweddar.
Gall busnesau newydd wneud cais am ddim am stondinau arddangos yn y digwyddiad.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gennym gynifer o fusnesau gwych yn Abertawe ac mae hwn yn gyfle arbennig iddynt arddangos, rhwydweithio a chyflwyno'u gwasanaethau.
"Mae'n un o nifer o ffyrdd rydym yma i gefnogi'n busnesau, gyda digonedd o gyfleoedd ariannu ar gael a gwasanaeth cymorth busnes wrth law i ddarparu arweiniad."
Meddai Mark Davies o Introbiz Abertawe a Gorllewin Cymru, "Mae tirwedd Abertawe'n newid yn gyflym iawn. Bydd isadeiledd a chyflwyniad y prosiectau parhaus yn sicrhau bod Abertawe'n lle deniadol iawn i fyw a gweithio.
"Gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, gallwn ddarparu cyfle i entrepreneuriaid y dyfodol arddangos eu busnesau newydd am ddim.
"Rydym yn arddangos holl ranbarthau de a gorllewin Cymru gan fod gennym fusnesau gwych yma."
Gofynnir i fusnesau fynd yma i archebu stondin, gan ddyfynnu EXPO23ANV i gael gostyngiad.
Gallwch ddod i'r digwyddiad am ddim, ond dylai unrhyw un sydd am fynd sicrhau ei fod yn cofrestru yn gyntaf drwy fynd i'r dudalen Eventbrite hon.