Toglo gwelededd dewislen symudol

Menter newydd yn cael ei lansio yn Abertawe i ddenu buddsoddiad byd-eang a chan y DU

Mae Abertawe'n agor ei drysau'n ehangach nag erioed i fuddsoddwyr gyda lansiad Invest in Swansea - menter newydd y bwriedir iddi sbarduno twf economaidd, creu swyddi, a chryfhau safle'r ddinas fel canolfan ar gyfer arloesi, adfywio a chyfle.

Invest in Swansea launch photo

Invest in Swansea launch photo

Mae'r fenter a gefnogir gan Gyngor Abertawe ac Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe, yn cynnwys gwefan bwrpasol, hawdd ei defnyddio - www.investswansea.com - sydd â'r nod o symleiddio'r broses fuddsoddi ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid ar draws y DU a thramor.

Mae'r llwyfan yn gwasanaethu fel siop dan yr unto i fuddsoddwyr posib, gan gynnig cyflwyniad i raglen adfywio gwerth £1 biliwn y ddinas, cyfleoedd ariannu, gwasanaethau cymorth busnes, a chryfderau sectorau penodol.

Gall ymwelwyr archwilio cyfleoedd datblygu presennol ac ar gyfer y dyfodol, cael mynediad at ganllawiau ar ymdrin â chynllunio a rheoliadau a chysylltu'n uniongyrchol â'r tîm Invest in Swansea i gael cefnogaeth wedi'i theilwra.

Un o brif uchafbwyntiau'r wefan yw fideo o'r awyr sy'n arddangos trawsnewidiad parhaus Abertawe, o brosiectau sydd wedi'u cwblhau i ddatblygiadau cyffrous sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd a'r rheini sydd yn yr arfaeth.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Abertawe'n ddinas a ddiffinnir gan drawsnewid ac uchelgais.

"Drwy ein rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn a phartneriaethau cryf â'r sector preifat, rydym yn adeiladu dinas sy'n lle anhygoel i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi a hefyd yn amgylchedd ffyniannus i fusnes.

"Nod Invest in Swansea yw ei gwneud hi'n haws nag erioed i fuddsoddwyr weld y potensial yma ac ymuno â ni ar y daith gyffrous hon."

Mae'r fenter yn adlewyrchu ymagwedd gydweithredol Abertawe, lle mae partneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd yn gweithio law yn llaw i greu dinas fodern, gynaliadwy sy'n ddigidol ddatblygedig.

Mae buddsoddi mewn isadeiledd digidol o'r radd flaenaf, prosiectau'r economi werdd a glas ac adfer treftadaeth yn gwneud Abertawe'n un o'r dinasoedd mwyaf blaengar yn y DU, yn ôl AGB Abertawe.

Meddai Andrew Douglas, Rheolwr AGB Abertawe, "Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Abertawe.

"Rydym wedi gweld twf a buddsoddiad sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar, a bydd lansio Invest in Swansea yn cynyddu'r momentwm hwnnw.

"Drwy ddarparu gwybodaeth glir, hygyrch a chefnogaeth ymarferol, rydym yn helpu buddsoddwyr i fanteisio ar ddinas sy'n llawn cyfleoedd, dawn ac arloesedd.

"Mae Abertawe'n ddinas lle daw cyfle â ffordd o fyw ynghyd - a nawr yw'r amser i fod yn rhan ohoni."

Meddai Ian Morgan, Aelod o Fwrdd AGB a Rheolwr Gyfarwyddwr Kartay, cwmni buddsoddi mewn eiddo a'u datblygu â'i ganolfan yn Abertawe, "Mae mentrau fel Invest in Swansea yn anfon neges bwerus i ddweud bod y ddinas ar agor, yn uchelgeisiol ac yn barod ar gyfer buddsoddiad.

"Mae Kartay ac eraill yn cyflawni prosiectau allweddol ar draws canol y ddinas, ac rydym yn gweld y momentwm yn cynyddu â'n llygaid ein hunain.

"Mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o daith Abertawe, ac rydym wedi ymrwymo i helpu i lunio canol dinas sy'n denu cyfleoedd o bob rhan o'r DU a thu hwnt.

"Rydym yn credu yn y ddinas, y bobl a'i dyfodol. Mae Invest in Swansea yn hanfodol wrth arddangos y cyfleoedd sydd ar gael ac o ran denu'r math o fuddsoddiad a fydd yn helpu Abertawe i wireddu ei photensial llawn."

Mae economi Abertawe'n elwa o nifer o sectorau twf allweddol, sy'n cynnwys digidol a thechnolegol, iechyd a gwyddorau bywyd, diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch, ynni gwyrdd ac adnewyddadwy, twristiaeth, bwyd a diod a gwasanaethau proffesiynol.

Mae anrhydeddau allweddol yn tynnu sylw at broffil cynyddol y ddinas. Mae'r rhain yn cynnwys PwC yn rhestru Abertawe ymysg y dinasoedd sy'n perfformio orau yn y DU.

Mae The Sunday Times hefyd yn rhestru Abertawe ymysg y lleoedd gorau i fyw yn y DU, ac mae CoStar wedi nodi twf rhentu swyddfeydd cyflym y ddinas.

Anogir buddsoddwyr i fynd i www.investswansea.com i archwilio cyfleoedd neu gysylltu â thîm Invest in Swansea yn uniongyrchol. Am ddiweddariadau parhaus, dilynwch Invest Swansea ar LinkedIn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2025