Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddolwyr y ddinas yn helpu digwyddiad i dynnu sylw byd-eang at Abertawe

​​​​​​​Bydd mwy na 500 o wirfoddolwyr yn ceisio helpu digwyddiad treiathlon IRONMAN 70.3 cyntaf Abertawe fod yn un o'r goreuon yng nghalendr byd-eang disglair y brand.

Paul Evans Volunteer Coordinator

Paul Evans Volunteer Coordinator

Bydd y digwyddiad, gyda 2,000 o athletwyr cofrestredig a miloedd o selogion a chefnogwyr, yn cychwyn yn Abertawe a Gŵyr ddydd Sul 7 Awst gan roi hwb i'r economi leol a dod â chydnabyddiaeth ryngwladol i'r ardal.

Bydd digwyddiad treiathlon IRONMAN 70.3 Abertawe - nofiad 1.2 filltir, reid feic 56 milltir a rhediad 13.1 filltir - hefyd yn dod â hwb ariannol i sefydliadau lleol y mae eu haelodau'n gwirfoddoli mewn grwpiau.

Mae'r trefnwyr wedi rhoi'r dasg o reoli ymgyrch wirfoddoli'r digwyddiad i Paul Evans,treiathletwr o Abertawe. Gyda rolau fel clercod cofrestru athletwyr, gweithredwyr gorsafoedd bwydo a marsialiaid ar hyd y llwybrau, mae Paul wrth ei fodd fod cynifer o bobl eisoes wedi cofrestru i gefnogi'r digwyddiad fis nesaf.

Meddai'r tad i ddau o blant o'r Cocyd, "Dwi mor falch bod unigolion a grwpiau am fod yn rhan o hyn - a bod y rhan fwyaf ohonynt yn dod o'r ardal leol.

"Mae Abertawe'n cael digwyddiad o safon o arwyddocâd rhyngwladol ac mae'r gymuned leol yn dechrau cyffroi amdano."

Mae cadetiaid awyr lleol ymysg y grwpiau ar yr amserlen wirfoddoli. Mae grwpiau fel y nhw, sy'n darparu dros 10 o wirfoddolwyr, yn derbyn rhodd ariannol gan IRONMAN. Mae eraill sy'n gwirfoddoli'n cynnwys clybiau chwaraeon ac amrywiaeth o elusennau lleol yn ogystal â llu o wirfoddolwyr unigol.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae nifer y gwirfoddolwyr sydd eisoes wedi cofrestru wedi creu argraff ar drefnwyr IRONMAN 70.3. Mae'n dangos bod awch mawr am ddigwyddiadau o safon yn y rhan hon o'r byd.

"Gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe yn yr arfaeth ar gyfer 6 Awst, mae hi'n mynd i fod yn benwythnos gwych o chwaraeon ar gyfer y ddinas."

Meddai Rebecca Sutherland, cyfarwyddwr rasys ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe, "Ni fyddai ein digwyddiadau'n bosib heb y gefnogaeth rydym yn ei derbyn gan ein gwirfoddolwyr lleol, ac mae'n wych gweld bod y gymuned mor awyddus i fod yn rhan o'n digwyddiad cyntaf yn Abertawe."

Llun: Paul Evans

 

Close Dewis iaith