Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas i groesawu athletwyr o bedwar ban byd ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe

Disgwylir i bron 2,000 o athletwyr gyrraedd de Cymru ar gyfer ras IRONMAN 70.3 Abertawe y llenwyd pob lle ar ei chyfer ac a gynhelir yma am yr eildro.

Ironman Swansea

Ironman Swansea

Ddydd Sul 16 Gorffennaf, byddant yn sefyll mewn rhes yn Noc Tywysog Cymru yn barod i rasio.

Byddant yn dechrau drwy nofio 1.2 filltir cyn dilyn dolen 56 milltir ar gefn beic drwy'r Mwmbwls, rhannau o fro Gŵyr ac yn ôl ar hyd Bae Abertawe i'r ddinas.

Yna byddant yn dilyn cwrs rhedeg dwy ddolen 13.1 filltir o ganol y ddinas, heibio Arena Abertawe tuag at y Mwmbwls cyn anelu nôl am Barc yr Amgueddfa a'r llinell derfyn.

Bydd nifer mawr o athletwyr o Gymru'n cymryd rhan ymhlith y  cystadleuwyr byd-eang.

Meddai cyfarwyddwr ras IRONMAN UK, Rebecca Sutherland, "Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu athletwyr lleol yn eu hôl a'u gweld yn rasio ochr yn ochr â' hathletwyr proffesiynol."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n dda gweld yr athletwyr yn paratoi at achlysur chwaraeon gwych arall yn Abertawe."

Mae digwyddiad IRONMAN yn rhan o wythnos chwaraeon rhyngwladol fawr. Rhwng 10 ac 16 Gorffennaf, bydd Abertawe'n croesawu'r Ŵyl Parachwaraeon a digwyddiadau rhyngwladol am ddim i wylwyr sef Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe 2023 ac IRONMAN 70.3 Abertawe.

Rhagor o wybodaeth: www.bit.ly/WTPSswansea ac www.ironman.com/im703-swansea.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Gorffenaf 2023