Adeilad JT Morgan i drawsnewid yn ganolfan gelfyddydau
Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i drawsnewid hen adeilad JT Morgan Abertawe'n ganolfan gelfyddydau ac yn ganolfan i weithwyr proffesiynol creadigol.


Dan gynlluniau dan arweiniad Oriel Elysium, bydd yr adeilad ar Belle Vue Way - sydd wedi bod yn wag ers 2008 - yn dod yn gartref i nifer o baentwyr, darlunwyr, cerflunwyr, dylunwyr, gwneuthurwyr printiau, ffotograffwyr, actorion a golygyddion fideos.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys oriel, ystafell ddigwyddiadau, canolfan addysg bwrpasol ac ystafell dawel.
Mae cyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn helpu i wagio'r adeilad, gosod drysau newydd a'i wneud yn ddiogel.
Cynllunnir gosod paneli solar newydd yn ogystal â lifft.
Mae'r prosiect hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i gynllun trawsnewid trefi.
Mae rhagor o arian wedi'i sicrhau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol a menter cyfrannau cymunedol.
Fel rhan o'r prosiect, bydd stiwdios Oriel Elysium ar Orchard Street yn symud i'r adeilad.
Mae gwaith codi arian hefyd yn parhau ar gyfer ail gam y gwaith a fyddai'n cynnwys symud stiwdios yr oriel ar College Street i'r adeilad hefyd, yn ogystal â'u canolfan addysg a'u horiel ar y Stryd Fawr.
Cedwir stiwdios Elysium ar Mansel Street yn eu lleoliad presennol a bydd eu canolfan ar y Stryd Fawr yn parhau i fod yn lleoliad cerddoriaeth fyw.
Mae gan Elysium gyfradd llenwi gyfredol o dros 95% ar gyfer ei stiwdios ar draws canol y ddinas.

Meddai Daniel Staveley, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Oriel Elysium, "Mae cael canolfan fawr yn hen uned JT Morgan yn golygu na fydd yn rhaid i ni barhau i symud o adeilad i adeilad, fel sydd wedi digwydd ers i ni sefydlu'r oriel yn 2007. Mae hyn yn golygu y gellir ail-fuddsoddi mwy o arian yn ein gwasanaethau i'r gymuned, gan helpu mwy o bobl yn y dyfodol.
"Mae'n wych bod Cyngor Abertawe a'r sector preifat yn adeiladu datblygiadau newydd yn y ddinas, ond mae hefyd yn galonogol gweld bod adeiladau gwag fel Theatr y Palace a Neuadd Albert yn cael eu defnyddio eto. Rydym yn gobeithio ategu'r gwaith hwnnw gyda'n cynlluniau ar gyfer safle JT Morgan.
"Mae'n ymwneud â llenwi'r lleoedd sydd gennym, sy'n gwneud pobl yn fwy balch o'u dinas.
"Mae angen buddsoddiad ar Abertawe, felly croesewir y cynlluniau ar gyfer y gwesty newydd ym Mae Copr hefyd yn ogystal â'r swyddfeydd oherwydd bod angen mwy o bobl i ddod i ganol y ddinas a gwario arian ar fusnesau lleol.
"Bydd hyn yn helpu i adfywio ardaloedd fel y Stryd Fawr ymhellach a galluogi mwy o fasnachwyr annibynnol i sefydlu eu hunain oherwydd bydd ymwelwyr yno."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae angen mwy o ymwelwyr a buddsoddiad ar ganol dinas Abertawe i helpu i ddenu mwy o siopau a busnesau eraill.
"Dyna'r rheswm pam mae trawsnewidiad gwerth £1bn dan arweiniad y cyngor a'r sector preifat yn mynd rhagddo yno i greu mwy o leoedd i weithio ac i fyw ynddynt i ychwanegu at gyfleusterau sydd eisoes wedi'u cwblhau fel Arena Abertawe.
"Bydd cynlluniau Elysium i symud i hen adeilad JT Morgan yn cefnogi'r gwaith hwn ymhellach, ac yn ategu cyfleusterau diwylliannol eraill yng nghanol y ddinas fel Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Abertawe."
Yn ddiweddar, ymwelodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, â'r adeilad.
"Trwy roi bywyd newydd i'r gofod hwn nad yw'n cael ei ddefnyddio, rydym nid yn unig yn gwella arlwy diwylliannol Abertawe ond hefyd yn creu cyfleoedd i artistiaid lleol ac yn annog mwy o ymwelwyr a fydd o fudd i fusnesau eraill yng nghanol y ddinas.
"Mae ein cyllid Trawsnewid Trefi yn ymwneud â chefnogi cymunedau i ail-ddychmygu eu mannau trefol, ac mae'r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o sut y gall buddsoddiad strategol ddarparu buddion lluosog."
Mae'r prosiect ymhlith cannoedd o brosiectau ar draws Abertawe sydd wedi elwa o gyllid Cyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae prosiectau eraill sydd wedi elwa o hyn yn cynnwys gwaith i adfer y Bwthyn Swistirol ym Mharc Singleton. Mae llawer o fusnesau ledled Abertawe hefyd wedi elwa o ganlyniad i grantiau.