Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddolwyr yn cynnig bwyd a hwyl yn ystod gwyliau'r ysgol

Mae gwirfoddolwyr ym Mhafiliwn Parc Jersey wedi bod yn brysur yr haf hwn yn gweini miloedd o brydau i deuluoedd sy'n defnyddio'r parc yn ystod gwyliau'r ysgol.

Jersey Park Pavilion Food 2024

Jersey Park Pavilion Food 2024

Tan ddoe (dydd Iau), maent wedi bod ar agor bob amser cinio yn ystod yr wythnos yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn pryd o fwyd cartref, cynnes os ydynt am gael un.

Roedd y pafiliwn yn un o 48 o grwpiau cymunedol ac elusennau ar draws y ddinas i wneud cais llwyddiannus am gyfran o bron £150,000 mewn grantiau bwyd fel rhan o gefnogaeth y Cyngor i deuluoedd wrth i blant fod i ffwrdd o'r ysgol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae gennym grwpiau cymunedol gwych yn Abertawe sy'n gwneud gwaith anhygoel a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth maen nhw'n ei wneud.

"Rwy'n falch iawn ein bod ni'n cefnogi teuluoedd yn Abertawe'r haf hwn. Gall gwyliau'r haf fod yn ddrud iawn i deuluoedd sydd eisoes yn wynebu amser caled oherwydd yr argyfwng costau byw." 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Awst 2024