Toglo gwelededd dewislen symudol

Teuluoedd â phlant yn cael eu hannog i ystyried maethu

Mae merch yn ei harddegau y mae ei rhieni'n ofalwyr maeth yn dweud bod rhannu ei chartref teuluol â phlant eraill wedi creu llawer o atgofion melys

Foster Carer daughter Joy Stock

Foster Carer daughter Joy Stock

Dywed Joy Stock, sy'n 15 oed, fod rhannu ei chartref wedi bod yn werth chweil ers i'w rhieni ddechrau maethu'r llynedd.

Mae gan oddeutu hanner y 128 o aelwydydd sy'n maethu i Faethu Cymru Abertawe eu plant eu hunain sy'n byw gartref, a nod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth yw dathlu cyfraniad y bobl ifanc hyn.

Meddai Joy, "Pan soniodd fy rhieni wrthyf gyntaf am faethu, roeddwn i'n gyffrous iawn. Ces fy magu wedi fy amgylchynu gan blant gan fod fy rhieni'n gofalu am blant gartref ac rwyf bob amser wedi mwynhau helpu pobl eraill.

"Roeddwn i bob amser yn dymuno cael chwaer neu frawd iau i ofalu amdano, fi yw'r ieuengaf o bump, a gwybod y byddwn i'n darparu cartref cariadus iddyn nhw oedd yr unig beth o bwys i fi. 

"Fy hoff atgof o fod mewn aelwyd sy'n maethu yw'r pethau bach fel gwylio ffilmiau gyda'n gilydd, chwarae gemau bwrdd a chael cinio gyda'n gilydd wrth y bwrdd.

Mae'r holl bethau hyn yn arbennig iawn i fi gan eich bod yn cael treulio amser gyda'ch teulu ac mae rhannu hyn â'm brodyr maeth wedi bod yn hyfryd.

"Pe bawn i'n gallu rhoi cyngor i blant eraill y mae eu teulu'n ystyried maethu, byddwn i'n dweud wrthyn nhw i fod yn barchus ac yn garedig. I fi, roedd yn gyffrous gwybod fy mod i'n cael rhannu fy nghartref a'i wneud yn lle diogel iddyn nhw hefyd.

"Rydw i a'm brodyr maeth wrth ein boddau'n gwneud llawer o bethau gyda'n gilydd fel; chwarae Just Dance, gwylio ein hoff gyfres ar Disney, a'n troeon i'r ysgol bob bore!"

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Gofal, Louise Gibbard, fod rhai pobl yn dweud bod yr effaith bosib ar eu plant yn un o'r rhwystrau rhag dod yn ofalwr maeth, ond mae llawer o blant yn cael budd o fod yn rhan o deulu sy'n maethu.

Gall gweld bywyd o safbwynt person arall fod yn brofiad sy'n cyfoethogi a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.

Mae plant hefyd yn gweld eu bod yn gallu datblygu eu perthnasoedd arbennig eu hunain â phlant sy'n cael eu maethu yn eu cartref.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gibbard, "Mae mor bwysig ein bod yn dangos i blant gofalwyr maeth ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r effaith gadarnhaol y maen nhw'n ei chael ar y byd maethu.

"Maen nhw wir yn arwyr di-glod. Mae plant gofalwyr maeth yn hanfodol wrth gyflwyno plant maeth i gartref newydd, gan eu galluogi i deimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u caru a'u bod yn ddiogel ac yn hapus.

"Nid yw croesawu rhywun newydd i'ch teulu'n dasg hawdd bob amser, ond mae'r plant hyn yn gwneud gwaith anhygoel, gan ddangos digonedd o dosturi a dyngarwch. Maent yn rhannu eu rhieni a'u cartref, yn ogystal â gorfod ymdopi weithiau ag ymddygiad anodd a heriol."

Mae Maethu Cymru Abertawe'n cynnig grŵp cymorth ar gyfer plant gofalwyr maeth, yn ogystal â llawer o weithgareddau a digwyddiadau, gan roi'r cyfle iddynt gwrdd â phlant gofalwyr maeth eraill sydd o bosib yn rhannu ac yn deall eu profiadau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu, yn enwedig sut y byddai'n cyd-fynd â dynameg eich teulu, ewch i www.abertawe.maethu.llyw.cymru neu ffoniwch 0300 555 0111.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Hydref 2025