Eiddo allweddol yng nghanol y ddinas yn dod i feddiant cwmni buddsoddi
Mae chwe eiddo allweddol yn Stryd Rhydychen, rhwng siop emwaith H Samuel a banc Barklays wedi dod i feddiant cwmni buddsoddi lleol sef Kartay Holdings yn ddiweddar, gyda'r nod o adfywio prif wythïen siopa yng nghanol y ddinas.
Mae Kartay wedi addo buddsoddi ymhellach yn yr adeiladau er mwyn rhoi bywyd newydd i ffordd drwodd bwysig yng nghanol dinas Abertawe. Ar hyn o bryd mae tri o'r chwe uned fanwerthu a gafwyd yn wag - fodd bynnag, mae sgyrsiau parhaus rhwng Kartay a nifer o fanwerthwyr a bwytai newydd yn datblygu'n dda mewn ymgais i roi hwb mawr i gynnig manwerthu a lletygarwch canol dinas Abertawe.
Bydd ailddatblygu'r adeiladau hefyd yn arwain at greu tua 27 o fflatiau fforddiadwy newydd ar y lloriau uchaf, gan ddarparu cartrefi mawr eu hangen mewn lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Yn sgîl hyn, bydd y datblygiad hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas yn sylweddol.
Mae'r buddsoddiad cyffrous hwn yn ategu cynlluniau Cyngor Abertawe ar gyfer datblygiad newydd y llyfrgell ganolog, yr hwb cymunedol a'r archifau sy'n cael ei datblygu ar hen safle siop BHS ar gornel Stryd Rhydychen. Mae hefyd yn cyd-fynd yn dda â chynlluniau ehangach Kartay i ddarparu cymorth sector preifat er mwyn adfywio canol dinas Abertawe.
Nododd Ian Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Kartay Holdings fod Cyngor Abertawe wedi creu argraff ar Kartay drwy'r gwaith y mae wedi'i wneud i ailddatblygu Bae Copr, a'i gynlluniau ailddatblygu mawr eraill sydd ar waith yn y ddinas ar hyn o bryd, a chalonogwyd y cwmni hefyd gan y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Fargen Ddinesig.
Meddai Ian Morgan, "Rydym wedi prynu'r bloc hwn fel buddsoddiad tymor hir, gyda'r bwriad o adfywio ardal fanwerthu allweddol yn y ddinas.
"Ar ôl gweld y cyfnod heriol y mae'r ddinas wedi'i ddioddef o ganlyniad i ddirywiad y Stryd Fawr, oherwydd y pwysau ar safleoedd manwerthu, mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i annog pobl i fyw, gweithio a chymdeithasu yng nghanol y ddinas er mwyn adfywio'r sectorau manwerthu a lletygarwch.
"Rydym bellach yn archwilio rhagor o fuddsoddiadau o'r math hwn, gyda ffocws parhaus ar ganol dinas Abertawe ac ardal Bae Abertawe.
"Ni fyddai'n bosib i ni gynnig buddsoddiad fel hyn heb y gwaith adfywio sylweddol parhaus sy'n mynd rhagddo yn Abertawe dan arweiniad Cyngor Abertawe. Hoffem ddangos ein cefnogaeth i'r fenter sector cyhoeddus hon drwy gymryd rôl ragweithiol a chefnogol mewn adfywio'r ddinas.
"Bydd yr ymagwedd gydweithredol hon rhwng y sector cyhoeddus a phreifat yn sicrhau bod canol y ddinas yn goroesi, a hefyd yn ffynnu."
Mae'r caffaeliad diweddaraf hwn i Kartay yn dilyn y cwmni'n prynu Princess House, bloc tŵr 10 llawr yn y ddinas, ac o ganlyniad mae 100% o'r adeilad bellach wedi'i lenwi, sef cynnydd o'r 60% blaenorol, gydag 17 o gwmnïau lleol bellach yn llenwi'r adeilad 47,000 troedfedd sgwâr. Mae gan Kartay gynlluniau i ailddatblygu esthetig yr adeilad yn y dyfodol er mwyn creu llif di-dor o saernïaeth ar hyd Princess Way.
Mae hen adeilad Smith Llewelyn ar bwys Princess House wedi dod i feddiant Kartay hefyd, ac mae'r cwmni wrthi'n ailddatblygu'r eiddo yn ddatblygiad amlddefnydd sy'n darparu 15,000 troedfedd sgwâr o le ar gyfer swyddfeydd, gradd A ,sy'n diwallu anghenion BBaChau yr 21ain ganrif mewn economi ddinas. Bydd yr unedau manwerthu ar y llawr isaf hefyd yn ceisio denu siopau bwyd a diod o safon.
Yn ychwanegol, mae Kartay hefyd yn berchen ar 1 Stryd Rhydychen (Mcdonald's, Sgwâr y Castell), adeilad masnachol 5 llawr sy'n cynnwys lle manwerthu ar y llawr gwaelod ar hyn o bryd. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, mae gan Kartay gynlluniau i ddatblygu'r lloriau uchaf yn fflatiau preswyl o safon yn y dyfodol, a fydd yn edrych dros Sgwâr y Castell a gaiff ei adfywio cyn bo hir i gynnwys adeiladau pafiliwn ar gyfer siopau bwyd a diod, seddi'r tu fas a nodwedd dŵr newydd.