Cofeb wedi'i hadnewyddu yn helpu cymuned i nodi 100 mlynedd ers trychineb pwll glo
Bydd cymuned yn Abertawe'n dod ynghyd ddydd Sul, 24 Tachwedd, i nodi a chofio am y rhai a gollodd eu bywydau yn nhrychineb pwll glo Killan ganrif yn ôl.
Bydd 27 Tachwedd yn nodi 100 mlynedd ers trychineb pwll glo Killan, lle collodd pum glöwr eu bywydau ar ôl i fewnlifiad o ddŵr foddi pwll glo Killan yn Nyfnant.
Ddydd Sul 24 Tachwedd am 3.30pm, bydd Eglwys Ebeneser Dyfnant yn croesawu'r gymuned fel rhan o wasanaeth arbennig a fydd hefyd yn cynnwys Côr Meibion Dyfnant.
Fel rhan o'r digwyddiadau coffa mae tîm Tirwedd Genedlaethol Gŵyr Cyngor Abertawe wedi dod ynghyd â chynghorwyr lleol a grwpiau cymunedol i adnewyddu cofeb leol ar gyfer y rhai a fu farw yn y trychineb.
Ym 1996, gosododd Cyngor Cymuned Dyfnant gofeb ym maes parcio Dyfnant i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau. Fodd bynnag, dros amser roedd y gofeb wedi dirywio ac nid oedd yn bosib darllen yr ysgrifen arni.
Nawr mae'r gofeb wedi'i hadnewyddu mewn pryd ar gyfer nodi 100 mlynedd ers y trychineb.
Dyma enwau'r dynion a fu farw ar 27 Tachwedd 1924 yn nhrychineb pwll glo Killan:
Wilfred John (17)
Willie Goulding (22)
Charles Evans (30)
Archie Davis (28)
Phil Godbeer (32)