Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynediad i Fynydd Cilfái yn cael ei gynnal fel rhan o gynlluniau i greu cyrchfan hamdden

Bydd mynediad i Fynydd Cilfái yn Abertawe yn cael ei gynnal a'i wella fel rhan o gynlluniau i ddatblygu cyrchfan hamdden mawr newydd yno.

How Skyline could look

How Skyline could look

Dywedodd Skyline Enterprises - y cwmni sy'n gyfrifol am y cynigion - y bydd mynediad i'r mynydd yn parhau fel y mae ar hyn o bryd os yw'r prosiect yn cael ei gymeradwyo, ond gyda chyfyngiadau diogelwch y cyhoedd ar waith mewn rhai ardaloedd.

Yn ogystal â chynnal mynediad er lles grwpiau defnyddwyr lleol, rhedwyr, cerddwyr a beicwyr mynydd, byddai system car cebl a chadeiriau codi arfaethedig y prosiect yn galluogi mwy o bobl nag erioed o'r blaen i fwynhau golygfeydd o gopa'r mynydd. Byddai hyn yn cynnwys pobl ag anableddau a phroblemau symudedd.

Byddai'r system car cebl arfaethedig yn rhedeg i ben Mynydd Cilfái o ardal Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.

Mae prif gynigion y cynllun yn cynnwys profiad cartio i lawr llethr Skyline sydd wedi'i bweru gan ddisgyrchiant sef y car llusg, siglen awyr, llwybrau cerdded presennol a rhai newydd, weiren wib, mynediad ychwanegol i feiciau mynydd ac unedau bwyd a diod.

Ni fydd unrhyw agwedd ar y cynllun arfaethedig yn pasio uwchben cartrefi pobl a bydd llawer o gyfleodd i bobl roi adborth am y cynigion ar ôl i ddyluniadau'r cynllun gael eu datblygu ymhellach.

Meddai Geoff McDonald, Prif Swyddog Gweithredol Skyline Enterprises, "Mae gennym hanes profedig da o weithio'n agos gyda'r cymunedau lleol ar yr holl safleoedd rydym yn gweithredu arnynt ar draws y byd, fel eu bod nhw hefyd yn elwa o'r profiad difyr o safon rydym yn ei ddarparu i ymwelwyr.

"Dyna fydd yr achos yn Abertawe hefyd os yw'r prosiect yn cael ei gymeradwyo, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â'r gymuned leol i gyflwyno'n cynlluniau, gan gynnwys cynnal a chadw a gwella mynediad a bioamrywiaeth ym Mynydd Cilfái.

"Cyn bo hir byddwn yn trefnu cyfarfod ar-lein gyda grwpiau lleol i drefnu ein cynnydd o ran y cynlluniau ac i wrando ar eu barn, cyn i ni gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb ym mis Mawrth lle bydd y cynlluniau manwl ar gael i'w trafod ac i roi adborth arnynt."

Cyhoeddir dyddiadau, amserau a lleoliad ar gyfer y digwyddiad ym mis Mawrth, a gynhelir dros sawl diwrnod, cyn gynted ag y byddant wedi'u cadarnhau.

Byddai cyfleoedd eraill i'r cyhoedd ddweud ei ddweud hefyd ar gael fel rhan o'r broses cais cynllunio os yw Skyline yn penderfynu bwrw ymlaen â'u cynlluniau.

Byddai'r digwyddiad ymgynghori'n dilyn nifer o astudiaethau a fydd yn ffurfio rhan o'r broses gynllunio, sy'n cynnwys gwaith ymchwilio safle ac astudiaethau ecolegol, coedyddiaeth, treftadaeth ac ansawdd aer sy'n ceisio lleihau'r effaith ar wyrddni cymaint â phosib, a hyrwyddo bioamrywiaeth, os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma gynnig cyffrous iawn i Abertawe a fyddai'n creu cyrchfan newydd o safon fyd-eang i ymwelwyr a hyd at 100 o swyddi newydd yn Abertawe, os yw'n cael ei gymeradwyo.

"Byddai busnesau lleol hefyd yn elwa o waith yn ystod cam adeiladu'r prosiect, a byddai busnesau presennol yn elwa o'r ymwelwyr ychwanegol y byddai'r prosiect yn eu denu i'r ardal, gan helpu i roi hwb pellach i'n hadfywiad parhaus o Gwm Tawe Isaf a choridor afon Tawe.

"Mae ein trafodaethau â grwpiau defnyddwyr lleol eisoes wedi dechrau, a byddem yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, ac mae prosesau cynllunio'n cael eu trefnu ar gyfer dechrau'r gwanwyn a thu hwnt i helpu i lywio cynlluniau terfynol."

Ewch i www.abertawe.gov.uk/SkylineFAQs am ragor o wybodaeth.

 

 

Close Dewis iaith