Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithwyr Ffordd y Brenin yn bwriadu cefnogi masnachwyr canol y ddinas

Mae gweithwyr sydd ar fin dechrau gweithio mewn datblygiad swyddfeydd newydd mawr yn Abertawe yn bwriadu cefnogi busnesau eraill yng nghanol y ddinas cymaint â phosib.

Andrea Bovingdon & Victoria Hill (IWG)

Andrea Bovingdon & Victoria Hill (IWG)

Mae Andrea Bovingdon a Victoria Hill, o'r darparwr gweithleoedd hyblyg IWG, yn edrych ymlaen at ymweld â chaffis, siopau a bwytai canol y ddinas yn ystod eu hegwylion pa fyddant yn symud i'r datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin.

Mae IWG ymysg nifer o denantiaid sydd wedi prydlesu lle yn yr adeilad, y mae 80% ohono bellach wedi'i osod. Mae'r cwmni ariannol Futures First hefyd yn symud yno, ynghyd â'r cwmni teithio a hamdden, TUI.

Mae trafodaethau ar gyfer yr holl le gwag sydd ar ôl yn yr adeilad, sy'n darparu lle i hyd at 600 o weithwyr, yn mynd rhagddynt yn dda.

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Meddai Victoria, "Mae sawl mantais i weithio yng nghanol y ddinas - er enghraifft y dewis am ginio ac agosrwydd siopau.

"Un o'i asedau gorau yw Marchnad Abertawe, lle gallwch brynu popeth, o goffi arbenigol a chynnyrch ffres i roddion o waith llaw - a'r cyfan wrth gefnogi busnesau lleol.

"Mae'r caffis annibynnol a'r gwerthwyr bach sydd ar wasgar o gwmpas canol y ddinas, gan gynnwys caffi a bar The Cwtch a Muswanna, yn cynnig croeso cynnes a bwyd gwych, sy'n berffaith ar gyfer egwylion cinio.

"Fel rhywun sydd wedi cael y cyfle i brofi adeilad 71/72 Ffordd y Brenin yn uniongyrchol, roedd y sylw i fanylion a'r uchelgais y tu ôl i'r prosiect wedi creu cryn argraff arnaf. Nid adeilad yn unig ydyw - mae'n gam beiddgar ymlaen ar gyfer Abertawe."

Meddai Andrea, "Mae detholiad gwych o gaffis a bwytai i ddiwallu eich holl anghenion yng nghanol y ddinas, felly mae hyn yn rhoi opsiynau gwych i'n cleientiaid os ydynt yn croesawu eu cleientiaid eu hunain.

"Gyda'r holl waith adfywio sy'n digwydd, mae canol dinas Abertawe yn lle mor addawol a bywiog i weithio ynddo.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at drawsnewidiad Sgwâr y Castell - mae'n lle gwych i gael eich cinio a gwylio'r byd yn mynd heibio."

Mae Mark Fender a Karim Walters, sy'n gweithio ar gyfer Savills - gweithredwr adeilad 71/72 Ffordd y Brenin - eisoes yn gweithio yn y datblygiad.

Mark Fender & Karim Walters (Savills)

Meddai Mark, "Rwy'n mwynhau te swigod a fy hoff le i fynd iddo yn ystod egwylion yw Boobo ar Plymouth Street.

"Rwyf hefyd wedi dod ar draws digon o fusnesau yn yr ardal nad oeddwn wedi sylwi arnynt o'r blaen. Rydym wedi cysylltu â busnesau lleol ac eisoes wedi defnyddio argraffydd lleol ar Walters Road ac un arall yn Arcêd Picton. Mae'r hyn sydd ar gael ar eich stepen drws yn anhygoel.

"Gydag adeilad mor fawr yn y lleoliad hwn ynghyd â nifer y gweithwyr a fydd yn gweithio ynddo, bydd hyn heb os nac oni bai'n cael effaith gynyddol gadarnhaol ar gyfer busnesau eraill yng nghanol y ddinas."

Meddai Karim, "Gan fy mod yn gweithio yng nghanol y ddinas nawr, mae'n hawdd i mi fynd allan yn ystod amser egwyl i gael cinio ac edrych o gwmpas siopau dillad fel Peacocks, River Island a Primark.  

"Ers dechrau gweithio yma, rwyf hefyd wedi cael fy nghyflwyno i far nwdls lleol o'r enw ASAGA, y byddwn yn ei argymell yn fawr.

"Bydd busnesau lleol yn bendant yn elwa o'r nifer ychwanegol o staff a fydd yn gweithio yma pump i saith niwrnod yr wythnos.

7172 Kingsway (July 2025)

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin hefyd yn cynnwys neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau bwyd a diod.

Mae ganddo deras gwyrdd ar y to â golygfeydd dros Fae Abertawe hefyd, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Gorffenaf 2025