Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd yn rhoi cipolwg ar waith datblygu Ffordd y Brenin

Mae'r fideo newydd hwn yn rhoi cipolwg ar safle datblygu mawr yng nghanol dinas Abertawe lle mae adeilad swyddfeydd uwch-dechnoleg newydd yn cael ei adeiladu.

Worker at 71/72 Kingsway

Worker at 71/72 Kingsway

Bydd datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2023, yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel  technoleg, digidol a'r diwydiannau creadigol.

Cyngor Abertawe'n sy'n datblygu'r swyddfeydd, gyda Bouygues UK fel ei brif gontractwr.

Mae gwaith i godi'r adeilad newydd bellach wedi dechrau, yn dilyn cwblhau gwaith ar y sylfeini.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad yn ddi-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.

Bydd yr adeilad a gaiff ei osod dros bum lefel yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a rhwydweithio hygyrch. Bydd cysylltiad newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin hefyd yn cael ei adeiladu.

Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Byddai unrhyw un sydd wedi bod i ganol y ddinas yn ddiweddar wedi sylwi ar dri chraen anferth yn ymgodi uwchben Ffordd y Brenin - dau ar safle'r datblygiad swyddfeydd newydd a'r llall ar safle'r 'adeilad byw' y mae Hacer Developments yn ei adeiladu gerllaw.

"Mae'r craeniau hyn yn arwydd o hyd yn oed mwy o gynnydd ar gyfer canol ein dinas, yn dilyn gwelliannau amgylcheddol mawr ar Ffordd y Brenin a Wind Street, ac agoriad atyniadau fel Arena Abertawe a'r parc arfordirol fel rhan o'n cyrchfan Bae Copr.

"Er gwaethaf y pandemig, mae galw o hyd am ddatblygiadau swyddfa fel yr un sy'n cael ei adeiladu yn 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd hyn yn helpu i gadw'n talent busnes ifanc yn Abertawe gan greu hyd yn oed mwy o swyddi i bobl leol a chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas a'r gwariant ynddo.

"Mae'n wych gweld bod gwaith yn mynd yn ei flaen ar y safle wrth i'r gwaith gwerth £1 biliwn i drawsnewid Abertawe ddatblygu'n dda."

Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras to gwyrdd a balconïau'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.

Hefyd bydd y cynllun 'adeilad byw' a arweinir gan Hacer Developments, y bwriedir ei gwblhau erbyn diwedd 2023, ymysg y cynlluniau cyntaf o'u bath yn y DU. Bydd yr adeilad, sy'n cynnwys  hen safle Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr cyfagos, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi. Bydd Pobl Group yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r cynllun.

Close Dewis iaith