Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymweliad â Ffordd y Brenin i ddangos y cynnydd yn y cynllun swyddfeydd

Mae arweinwyr prosiect sy'n gyfrifol am ddatblygiad newydd yng nghanol dinas Abertawe wedi ymweld â'r safle adeiladu i weld y cynnydd cynnar sydd eisoes wedi'i wneud yno.

7172 visit (March 2022)

7172 visit (March 2022)

Roedd uwch-gynrychiolwyr o Gyngor Abertawe a Bouygues UK ymhlith y rheini ar y safle ar 71/72 Ffordd y Brenin lle mae gwaith paratoadol newydd ddechrau ar gynllun swyddfeydd pum llawr a fydd yn darparu lle i 600 o weithwyr.

Mae gwaith ar y sylfeini'n symud yn ei flaen yn awr cyn i ffrâm goncrit yr adeilad gael ei chodi yn y misoedd i ddod.

Bydd y datblygiad newydd, sydd ar safle hen glwb nos Oceana, yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.

Bydd y cynllun y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023 yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a swyddfa hyblyg i fusnesau mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r cynllun sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ymweld â'r safle wedi'n galluogi i weld drosom ein hunain y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud, ond hefyd i ddysgu gan brif gontractwr y cynllun Bouygues UK am rai o'r offer digidol cyffrous i'w defnyddio cyn bo hir fel rhan o'r prosiect wrth i'r gwaith datblygu gyflymu.

"Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y cynllun hwn yn cynnig y math o swyddfeydd hyblyg, modern y gwyddom y mae eu hangen ar ein busnesau i ffynnu, yn enwedig yn y sectorau digidol, technoleg a chreadigol lle mae gweithle ystwyth gyda chyfleoedd rhwydweithio a chysylltedd digidol o ansawdd uchel mor bwysig.

"Mae'r cynllun wedi denu cryn sylw gan denantiaid posib a bydd hefyd o fudd i fusnesau eraill canol y ddinas drwy ddenu rhagor o ymwelwyr a gwariant.

"Mae lle swyddfa modern, hyblyg a fforddiadwy o'r math hwn yn hanfodol os ydym yn mynd i gefnogi busnesau sy'n tyfu i aros yn Abertawe yn ogystal â denu busnesau newydd i'r ddinas."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd y cynllun hwn yn helpu i gadw doniau busnes ifanc yn Abertawe ac yn darparu mwy fyth o swyddi a chyfleoedd i bobl leol.

"Mae'n enghraifft arall eto o argraff arlunydd a fydd yn dod yn fyw cyn bo hir, sy'n dilyn cynllun gwella sylweddol dan arweiniad y cyngor sydd eisoes wedi trawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd llawer gwyrddach a mwy pleserus i breswylwyr a busnesau."

Meddai John Boughton, Cyfarwyddwr Rheoli Rhanbarthol Bouygues UK, "Mae Bouygues UK yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe ar y prosiect hollbwysig hwn ar gyfer y ddinas ac roedd yn wych croesawu'r cynghorwyr a'r swyddogion i'r safle er mwyn iddynt allu gweld y cynnydd hyd yn hyn.

"Mae'r cymysgedd o leoedd masnachol a swyddfeydd yn mynd i fod yn gaffaeliad gwych i Abertawe, ynghyd â'r prosiectau adfywio eraill sy'n mynd rhagddynt. Mae'r ffaith y bydd yr adeilad, pan fydd wedi'i orffen, yn gweithredu ar sero net hefyd yn bwysig i ni fel busnes, gan mai ein huchelgais yw cyflawni hyn ar draws ein holl safleoedd ac adeiladau."

Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu. Mae arwyneb dros dro wedi'i osod yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod unwaith y bydd y prif waith adeiladu wedi'i orffen.

Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru i wneud hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith