Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisio barn ar gynnig pontŵn yn Knab Rock

Gwahoddir pobl i fynegi barn ar gynnig i greu pontŵn newydd yn Knab Rock yn y Mwmbwls.

Knab Rock

Knab Rock

Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am y cynnig, sydd â'r nod o'i gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr cychod gael mynediad i'r dŵr yno.

Mae'r defnyddwyr yn cynnwys pysgotwyr, defnyddwyr cychod pleser a chychod hwylio.

Os yw'r cynigion ar gyfer y pontŵn yn cael sêl bendith, byddai'n cael ei gysylltu â'r llithrfa yn Knab Rock. Byddai'r pontŵn hefyd yn helpu pobl â rhai anableddau i gael gwell mynediad i gychod ar y dŵr yno.

Byddai manteision eraill y pontŵn newydd yn cynnwys y cyfle i bysgotwyr lleol gynnig ystod ehangach o wasanaethau, gan gynnwys teithiau pysgota. Gallai'r pontŵn hefyd gael ei ddefnyddio fel man byrddio yn y dyfodol ar gyfer tacsis dŵr rhwng y Mwmbwls a rhannau eraill o'r ddinas gan gynnwys Marina Abertawe.  

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae defnyddwyr cychod, gan gynnwys pysgotwyr, yn enwedig os ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, yn ei chael hi'n anodd iawn mynd ar eu cychod yn Knab Rock heb wlychu'n fawr.

"Byddai pontŵn newydd yn y lleoliad yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i'r defnyddwyr cychod hyn gael mynediad i'w cychod yno, tra hefyd yn annog ystod ehangach o ddefnyddiau fel teithiau pysgota a chyfleoedd chwaraeon dŵr i breswylwyr lleol ac ymwelwyr.

"Yn y dyfodol, mae potensial hefyd i gysylltu rhannau o Abertawe â thacsis dŵr, felly gallai'r pontŵn newydd yn Knab Rock gael ei ddefnyddio fel man codi a gollwng.

"Rydym yn ceisio cymaint o adborth â phosib cyn i'r cynnig hwn symud yn ei flaen. Dyna pam y byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb i edrych ar ein hymgynghoriad ar-lein a rhoi ei farn fel y gallwn ei hystyried yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf."

Byddai'r cynnig yn cael ei ariannu drwy Gronfa Adferiad Economaidd Cyngor Abertawe - cronfa fawr o arian i helpu cymunedau a busnesau i adfer o effaith economaidd y pandemig.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/pontwnynknabrock?lang=cy i ddweud eich dweud erbyn y dyddiad cau ar 11 Medi.

Close Dewis iaith