Toglo gwelededd dewislen symudol

Arbenigwr adeiladu morol wedi'i benodi ar gyfer gwaith ar amddiffynfeydd môr y Mwmbwls

​​​​​​​Mae Cyngor Abertawe wedi penodi'r arbenigwr adeiladu morol, Knights Brown, i wneud gwaith sylweddol ar amddiffynfeydd môr y Mwmbwls.

New Sea Wall Plan

New Sea Wall Plan

Bydd y gwaith, a fydd yn helpu i amddiffyn cartrefi, busnesau a phobl y gymuned rhag lefelau môr cynyddol am ddegawdau i ddod, yn cymryd tua 18 mis.

Bwriedir iddo hefyd wella'r Mwmbwls fel cyrchfan, gyda goleuadau, biniau a seddi newydd a chysylltiadau gwell â Mumbles Road.

Cymerir ystod o gamau gweithredu i gyfyngu ar lefel y tarfu ar ddeiliaid tai, busnesau, digwyddiadau ac ymwelwyr o ganlyniad i'r cynllun.

Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Cafwyd y cyllid ar gyfer gwaith paratoi drwy gyllid grant, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi 85% tuag at y gwaith adeiladu drwy ei Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol.

Meddai'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, "Bydd y gwaith hwn yn y Mwmbwls yn gwella amddiffyniad rhag llifogydd ac erydu arfordirol i oddeutu 130 o adeiladau, ac mae'n enghraifft wych arall o'r gwaith a gyflawnwyd diolch i'n Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol."

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi penodi Knights Brown drwy broses dendro gystadleuol. Mae eu profiad a'u harbenigedd mewn amgylcheddau morol yn drawiadol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Adrannol Knights Brown, Andrew Eilbeck: "Rydym yn falch o fod wedi ennill y tendr ar gyfer y prosiect amddiffynfeydd môr mawr hwn yn y Mwmbwls. Bydd yn diogelu ac yn gwella'r ardal leol a'i hamwynderau."

Mae peirianneg sifil amddiffynfeydd môr diweddar a gyflawnwyd gan Knights Brown yn cynnwys prosiectau sylweddol yn Aberafan, Porth Tywyn a Phorthcawl.

Mae rhai amddiffynfeydd môr presennol yn y Mwmbwls mewn cyflwr gwael a disgwylir i'r lefel perygl llifogydd gynyddu yn y dyfodol oherwydd y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr.

Byddai diffyg gweithredu yn peryglu tua 130 o gartrefi a busnesau.

Disgwylir i'r gwaith ar y safle ddechrau yn ystod y dyddiau nesaf. I ddechrau, bydd Knights Brown yn gosod lle caeedig yn agos at y prom a gwesty'r Oyster House.

Bydd yn rhaid cau rhannau o'r promenâd i'r cyhoedd fesul cam yn ystod y gwaith.

Bydd mynediad i gartrefi a busnesau'n parhau drwy gydol y gwaith. Y bwriad yw y bydd gwaith sy'n cael ei wneud yn union gerllaw busnesau sy'n ffinio â'r prom yn cael ei gyfyngu yn ystod cyfnod brig y tymor twristiaeth er mwyn lleihau unrhyw darfu posib.

Mae'n debygol y bydd sŵn adeiladu i'w glywed drwy'r holl brosiect er y bwriedir i hyn fod yn ystod y dydd lle bo'n bosib.

Bwriedir i fesurau eraill a gymerir i leihau unrhyw darfu yn ystod y gwaith gynnwys:

  • Ymdrechion i leihau lleihad dros dro mewn mannau parcio
  • Cyfathrebu cyhoeddus rheolaidd am gynnydd o ran y gwaith ac opsiynau teithio
  • Ystyried opsiynau ar gyfer llwybr Trên Bach Bae Abertawe y cyngor
  • Ystyried opsiynau ar gyfer ailgyfeirio digwyddiadau athletau'n rhannol
  • Cyfathrebu amserol â thwristiaid a'r fasnach dwristiaeth leol

Mae'r cyngor a'i gontractwyr yn bwriadu rhoi'r diweddaraf i'r cyhoedd a busnesau drwy sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb, cylchlythyrau, ar-lein ac yn y wasg.

Cynlluniau llawn - www.bit.ly/MSDplanapp

Llun: Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Andrew Stevens, chwith, gyda Cyfarwyddwr Adrannol Knights Brown, Andrew Eilbeck, ar lan môr y Mwmbwls.

 

 

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023