Dymchwel adeilad yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiad yn y ddinas
Mae hen adeilad Llys Dewi Sant yn Abertawe yn dechrau diflannu, fesul bricsen, o ganol y ddinas.
Mae'r prif waith i ddymchwel yr adeilad yn digwydd nawr, ar ôl cwblhau'r gwaith i dynnu'r rhannau mewnol.
Yn y blynyddoedd diweddar, defnyddiwyd yr adeilad, sydd yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant, fel swyddfa safle ar gyfer ardal £135m Bae Copr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae hysbysfyrddau wedi'u codi o gwmpas y safle, a fydd yn cael eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash a Milligan fel rhan o gynigion ehangach ar gyfer safle datblygu Gogledd Abertawe Ganolog yn y tymor hwy.
Unwaith y rhoddir cynigion manwl ar waith ar gyfer yr holl safle datblygu, trefnir bod digon o gyfleoedd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol gyflwyno adborth a fydd yn helpu i lunio'r cynlluniau terfynol.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Arena Abertawe, y bont newydd dros Oystermouth Road, y parc arfordirol a chyfadeilad fflatiau newydd bellach wedi'u cwblhau yn ein hardal Bae Copr, a disgwylir i elfennau eraill gael eu cwblhau yn y misoedd i ddod.
Ond nid yw'r gwaith i adfywio'n dinas yn gorffen gyda hynny gan y bydd Urban Splash a phartneriaid yn gweithio gyda ni i ailddatblygu safleoedd gan gynnwys Gogledd Abertawe Ganolog yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn y blynyddoedd i ddod.
"Mae angen dymchwel adeilad Llys Dewi Sant er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer yr ailddatblygiad hwnnw a fydd yn creu swyddi i bobl leol gan ddod â mwy o fywyd i ganol y ddinas a denu mwy fyth o ymwelwyr a buddsoddiad.
"Trefnir y bydd y cynigion ar gyfer Gogledd Abertawe Ganolog a safleoedd eraill i'w hailddatblygu gan Urban Splash ar gael i bobl roi adborth arnynt cyn gynted ag y maent wedi'u datblygu'n fanylach."
Mae safleoedd eraill i'w hailddatblygu gan Urban Splash yn cynnwys safle'r Ganolfan Ddinesig a llain o dir yn agos at bontydd yr afon yn ardal St Thomas y ddinas.
Disgwylir i'r gwaith i ddymchwel adeilad Llys Dewi Sant gael ei orffen erbyn diwedd mis Medi. Buckingham Group Contracting Ltd - y prif gontractwr ar gyfer cynllun Bae Copr - fydd yn ymgymryd â'r gwaith.