Toglo gwelededd dewislen symudol

Dymchwel adeilad wrth i baratoadau adfywio barhau

Dyma sut olwg sydd ar safle hen adeilad Llys Dewi Sant wrth i'r gwaith dymchwel baratoi'r ffordd ar gyfer trawsnewid canol dinas Abertawe ymhellach.

Llys Dewi Sant down

Llys Dewi Sant down

Mae'r safle'n rhan o safle datblygu cyffredinol Gogledd Abertawe Ganolog a fydd yn cael ei ailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash a Milligan.

Cyn ei ddymchwel, roedd hen adeilad Llys Dewi Sant wedi'i ddefnyddio'n fwyaf diweddar fel swyddfa safle ar gyfer ardal Bae Copr gwerth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe gyda'r gwaith datblygu'n cael ei reoli gan RivingtonHark. Bu unwaith yn gyfadeilad tai lloches hefyd ond disodlwyd  hwn gan gyfleuster newydd o'r radd flaenaf yn agos at hen safle Cae'r Vetch yn y ddinas.

Unwaith y rhoddir cynigion manwl ar waith ar gyfer safle datblygu cyffredinol Gogledd Abertawe Ganolog, trefnir bod digon o gyfleoedd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol gyflwyno adborth a fydd yn helpu i lunio'r cynlluniau terfynol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae safle datblygu Gogledd Abertawe Ganolog yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn un o lawer i'w trawsnewid gan ein partneriaid adfywio hirdymor, Urban Splash.

"Roedd angen dymchwel hen adeilad Llys Dewi Sant er mwyn paratoi'r safle cyffredinol hwnnw ar gyfer cynlluniau ailddatblygu a fydd yn creu mwy o swyddi a bywiogrwydd fel rhan o ardal newydd a fydd yn cysylltu ardaloedd fel Oxford Street yn well â'r glannau a'n hardal newydd sef Bae Copr sy'n cynnwys Arena Abertawe a'r parc arfordirol.

"Cyn gynted ag y bydd y cynlluniau hyn yn barod yn fanwl, byddant ar gael i breswylwyr a busnesau fynegi eu barn amdanynt wrth i'r gwaith gwerth £1bn i drawsnewid Abertawe i fod yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef barhau."

Mae safleoedd eraill i'w hailddatblygu gan Urban Splash yn cynnwys safle'r Ganolfan Ddinesig a llain o dir yn agos at bontydd yr afon yn ardal St Thomas y ddinas.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Hydref 2022