Toglo gwelededd dewislen symudol

Profion goleuo'n dechrau yn Arena Abertawe

Mae profion goleuo rhannol cynnar wedi cychwyn bellach yn Arena Abertawe wrth i gynnydd ar y safle gyflymu.

Arena LED panels test

Arena LED panels test

Mae'r profion cychwynnol, cyfyngedig yn dilyn gosod peth o'r paneli goleuadau LED euraid sy'n cael eu gosod o gwmpas y tu allan i'r  datblygiad.

Cynhelir rhagor o brofion paratoadol yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod wrth i fwyfwy o baneli goleuadau gael eu gosod.

Unwaith y cwblheir hyn, bydd dros 1,600 o baneli o gwmpas rhan allanol yr arena, gyda 95,000 o oleuadau LED.

Bydd hyn yn golygu y gellir cynnal sioeau goleuadau o amgylch y tu allan i'r arena a bydd potensial hefyd i hyrwyddo sioeau, cyngherddau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod.

Mae'r arena sydd â lle i 3,500 o bobl ac a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group yn un rhan o ardal newydd cam un Bae Copr sy'n werth £135 miliwn sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae dechrau'r profion paratoadol, rhannol ar gyfer peth o'r paneli goleuadau LED yn gam ymlaen arall ar gyfer y gwaith i adeiladu Arena Abertawe, ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud hefyd ar holl elfennau eraill ardal newydd cam un Bae Copr y ddinas.

"Profion cynnar a chyfyngedig yw'r rhain, felly ni fydd yr hyn y bydd pobl yn ei weld yn yr wythnosau sydd i ddod yn adlewyrchu'r arddangosiadau ansawdd uchel y bydd i'w gweld ar y tu allan i'r arena pan fydd ar agor ac yn weithredol.

"Dim ond pan fydd pob panel wedi'i osod ac y bydd gennym rhaglen o gynnwys yn ei lle y byddwn yn gweld gallu llawn y dechnoleg, a fydd yn cyfuno â phopeth arall sydd yn yr arfaeth i ddatblygu atyniad o'r radd flaenaf.

"Bydd datblygiad trawiadol yr arena hefyd yn ategu nodweddion eraill cam un Bae Copr i greu cyrchfan fywiog newydd i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas fel rhan o gynllun a fydd yn creu cannoedd o swyddi ac yn werth £17.1 miliwn y flwyddyn i'r economi leol.

"Mae Bae Copr yn un rhan o'n stori adfywio gwerth £1 filiwn sy'n datblygu ar draws Abertawe, gan drawsnewid ein dinas yn un o'r goreuon yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi."

Mae cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys y parc arfordirol 1.1 erw, ynghyd â lleoedd parcio, busnesau a fflatiau newydd. Buckingham Group Contracting Limited sy'n arwain y gwaith adeiladu y disgwylir iddo gael ei gwblhau'r hydref hwn, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Cyngor Abertawe sy'n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o'r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ariennir y bont nodedig sy'n rhan o'r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021