Digwyddiad i ddathlu Mis Hanes LHDTC+
Cynhelir digwyddiad rhwydweithio i ddathlu Mis Hanes LHDTC+ ddydd Sadwrn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Bydd y digwyddiad, a drefnir gan Sadie's Butterflies a chyda chefnogaeth Cyngor Abertawe a phartneriaid eraill, yn cynnwys amrywiaeth o stondinau gwybodaeth, cerddoriaeth fyw a siaradwyr gwadd yn ogystal â chyfle i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.
Fe'i cynhelir rhwng 10.30am a 4pm ac mae croeso i bobl ddod ar unrhyw adeg, heb orfod cadw lle.
Bydd dawns yn dechrau o 7pm gyda cherddoriaeth ac adloniant byw.
Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw oddi wrth Sadie's Butterflies neu gall pobl dalu wrth y drws.
Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gydraddoldeb a Diwylliant, "Mae Abertawe'n lle sy'n parchu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi amrywiaeth a'n bod yn gwella amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol, eu hanes, eu bywydau, eu profiadau a'u cyfraniadau at gymdeithas."