Toglo gwelededd dewislen symudol

Diolch! Yr Arglwydd Faer yn lansio ymgyrch elusennol canser yn y farchnad

Mae Arglwydd Faer Abertawe'n defnyddio un o'i hoff lefydd i lansio ei hapêl er budd canolfan ganser y ddinas gyda chymorth rhai o'i ffrindiau.

lord mayor charity market launch 5

lord mayor charity market launch 5
 
LM charity market launch 1
 
Lord mayor charity market launch 2
lord mayor charity market launch 3
 
lord mayor charity market launch 4
 
lord mayor charity market launch 6

Ddydd Sadwrn 11 Hydref, bydd The Phoenix Choir of Wales yn perfformio ym Marchnad Abertawe wrth i'r Cynghorydd Cheryl Philpott gychwyn ei hapêl Dim Ond Punt.

Bydd y seren radio a phantomeim Kev Johns yno hefyd.

Mae'r Cynghorydd Philpott yn defnyddio ei blwyddyn yn y swydd i helpu i godi £200,000 ar gyfer apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser Elusen Iechyd Bae Abertawe ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.

Mae Canolfan Canser De-orllewin Cymru, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn darparu amrywiaeth o driniaethau'r GIG sy'n achub bywydau fel radiotherapi, cemotherapi ac imiwnotherapi a bydd yr holl arian a godir yn helpu i gefnogi cleifion, teuluoedd a staff.

Mae masnachwyr y farchnad wedi bod yn awyddus i gefnogi'r apêl a bydd gan lawer ohonynt flychau casglu yn eu stondinau trwy gydol yr ymgyrch codi arian.

Bydd y lansiad yn dechrau am hanner dydd ddydd Sadwrn ac mae gwahoddiad agored i bobl ddod iddo.

Meddai'r Cyng. Philpott, "Roedd fy uchelgeisiau pan ddes i'n Arglwydd Faer yn cynnwys codi cymaint o arian â phosib ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru a'r llall oedd helpu i hyrwyddo ein marchnad dan do wych ac rwy'n falch iawn o gyfuno'r ddau ohonynt er mwyn lansio apêl Dim ond Punt.

"Yn ogystal â'r blychau casglu, byddaf hefyd yn cynnal digwyddiadau elusennol a bydd pob ceiniog a godir yn mynd i Ganolfan Canser De-orllewin Cymru."

Meddai Lewis Bradley, Rheolwr Elusen Iechyd Bae Abertawe, "Rydym mor gyffrous bod yr Arglwydd Faer yn cefnogi apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser drwy ymgyrch Dim ond Punt. Mae'n gyfle gwych i ledaenu'r gair yn lleol ac annog pobl i gymryd rhan ynddi."

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2025