Toglo gwelededd dewislen symudol

Elusennau'r Arglwydd Faer yn cael hwb ariannol

Mae un o elusennau hwyaf ei gwasanaeth Abertawe wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed gyda rhodd codi arian ar gyfer elusennau'r Arglwydd Faer.

LM soroptomist presentation 2023

Mae Soroptimyddion Abertawe, elusen sy'n ceisio trawsnewid bywydau a statws merched a menywod, wedi bod yn rhan o gymunedau lleol ers 1933 ac mae wedi codi £300 i elusennau Arglwydd Faer Abertawe sef Canolfan Maggie's a Zac's Place.

Gwnaeth yr Arglwydd Faer, Mike Day, wahodd y grŵp i Barlwr yr Arglwydd Faer er mwyn rhoi cyfle i aelodau'r grŵp, Angela Ball, Norma Glass a Carole Davies gyflwyno'r arian ar ran y grŵp.

Meddai, "Mae'r Soroptimyddion wedi bod yn ymgyrchu ar ran merched a menywod yn Abertawe am bron canrif, drwy gyfleoedd addysg a grymuso. Mae'n achos sy'n bwysig iawn hyd heddiw.

"Hoffwn ddiolch iddynt am feddwl am Ganolfan Maggie's a Zac's Place. Mae'r ddwy ohonynt yn elusennau lleol gwych sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

"Mae'r ddau grŵp hwn yn dibynnu ar garedigrwydd ac ysbryd pobl Abertawe i'w hariannu. Heb gefnogaeth y rheini sy'n codi arian, fel y Soroptimyddion, ni fyddant yn gallu gwneud y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud yn ein cymunedau.