Toglo gwelededd dewislen symudol

Delweddau newydd yn dangos cynlluniau'r gwaith copr, Y Strand a'r amgueddfa

Mae delweddau cysyniadol newydd yn dangos sut gallai rhannau o Waith Copr yr Hafod-Morfa, Y Strand ac Amgueddfa Abertawe edrych unwaith y cwblheir prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe.

The Strand CGI

The Strand CGI

Mae gwaith cadwraeth pellach yn y gwaith copr a gwell cysylltiadau rhwng y safle a chanol y ddinas ymysg nodweddion prosiect gwella ar gyfer Cwm Tawe Isaf sy'n cael ei arwain gan Gyngor Abertawe.

Mae gwaith i uwchraddio a gwella Amgueddfa Abertawe i ddiogelu'r lleoliad, gwella'r profiad i ymwelwyr a'r mynediad yno hefyd yn rhan o'r prosiect cyffredinol, y'i gwnaed yn bosib o ganlyniad i gais llwyddiannus gan y cyngor am £20m gan Lywodraeth y DU fel rhan o'i rhaglen Codi'r Gwastad.

Mae rhagor o wybodaeth wedi'i rhyddhau bellach ar bob un o dair elfen y prosiect sy'n cynnwys:

  • Adfer hen adeilad y labordy yn y gwaith copr i greu bwyty a lleoedd bwyd a diod. Bydd buddsoddiad ym mheiriandai Musgrave a Vivian yn arwain at adeiladu lle caeëdig newydd i greu atyniad treftadaeth i ymwelwyr a chaffi. Bydd y trac a'r locomotif yn sied V&S yn cael eu hailosod hefyd, caiff marchnadle ei chreu yn hen adeilad y Felin Rolio, a chyflwynir mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio ar y safle i ymwelwyr.
  • Caiff dau bontŵn eu gosod ar hyd afon Tawe a bydd unedau manwerthu bach yn cael eu creu i fasnachwyr lleol wrth y bwâu Fictoraidd ar Y Strand Gosodir lifft o'r Strand i'r Stryd Fawr a chaiff gwaith ei wneud i wella golwg a naws Y Strand yn agos i'w fwâu a'i dwneli. Bydd podiau manwerthu a gwell goleuadau yn cael eu gosod yn y twneli.
  • Caiff estyniad newydd ei adeiladu yn Amgueddfa Abertawe - sy'n cael ei ddathlu'n eang fel yr amgueddfa hynaf yng Nghymru- i greu mwy o leoedd arddangos a dysgu ac orielau a dod â rhan o'r casgliad sydd wedi'i storio yn y Felin Rolio ar safle'r gwaith copr i leoliad cyhoeddus i'w harddangos. Mae cynlluniau amlinellol yn cynnwys syniadau ar gyfer ardaloedd cadwraeth a chasglu ynghyd â mannau addysg, dysgu a chaffis a allai hefyd greu gwell cysylltiadau â'r man agored y tu ôl i Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gerllaw.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe dreftadaeth ddiwylliannol mor gyfoethog ond roedd angen rhagor o gyllid i'w gwarchod a'i dathlu'n well yn dilyn y swm enfawr o waith cadwraeth sydd eisoes yn digwydd mewn safleoedd fel y gwaith copr.

"Bydd prosiect Cwm Tawe Isaf yn arwain at ailddefnyddio safle'r gwaith copr a gwella golwg a naws Y Strand yn sylweddol, gan hefyd greu swyddi i bobl leol a chyfleoedd twf i fusnesau lleol.

"Caiff cysylltiadau rhwng y gwaith copr, canol y ddinas ac afon Tawe eu creu hefyd er budd cerddwyr a beicwyr, a bydd y gwaith i uwchraddio a gwella Amgueddfa Abertawe yn cyfuno â gwaith ar safle'r gwaith copr i hyrwyddo'n cynnig twristiaeth treftadaeth ac adrodd stori ein hanes diwydiannol balch yn well.

"Bydd y buddsoddiad mawr newydd hwn yn ychwanegu at raglen adfywio sydd eisoes yn werth dros £1bn sy'n trawsnewid Abertawe yn un o'r mannau gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef."

Mae'r rhaglen adfywio gyffredinol yn cynnwys gwaith parhaus i adnewyddu safle'r gwaith copr. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan gwmni o Abertawe sef John Weavers Contractors ar ran Cyngor Abertawe a bydd yn cynnwys distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd Penderyn.

Galluogwyd y prosiect hwnnw drwy grant o £4m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynlluniau eraill ar gyfer yr ardal yn cynnwys y cynigion sy'n dod i'r amlwg gan Skyline ar gyfer Mynydd Cilfái y gallent gynnwys, yn amodol ar gymeradwyaeth, system ceir cebl, llwybrau ceir llusg a chyfleusterau eraill.