Cynnydd! Ar un o drysorau eraill y Gwaith Copr
Mae gwaith cynnar i drawsnewid adeiledd hanesyddol arall yn Abertawe yn gwneud cynnydd.


Mae Adeilad y Labordy ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa'n cael ei ailadeiladu ar eich rhan gan gwmni o Abertawe sef John Weaver Contractors.
Mae caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad, drws nesaf i ganolfan wisgi Penderyn yng Nglandŵr, yn golygu y gallai meddianwyr y dyfodol gynnwys bwyty.
Mae'r gwaith yn rhan o'n rhaglen barhaus i adfywio Cwm Tawe Isaf. Mae'n cael cymorth gan raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae'r gwaith cynnar ar Adeilad y Labordy, sy'n adeiledd rhestredig Gradd Dau y credir ei fod yn dyddio o ail hanner y 1800au, wedi cynnwys symud cannoedd o frics coch ac eitemau eraill o waith cerrig o gorn simnai 12m o uchder a oedd yn anniogel.
Maent yn cael eu glanhau a'u storio'n ddiogel fel eu bod yn barod i'w defnyddio eto'n ddiweddarach yn y prosiect.
Mae gwaith nawr yn parhau yn awr i sefydlogi'r adeilad rhestredig gradd dau i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn ddwrglos.
Mae adeiladau treftadaeth eraill a achubwyd ar gyfer Abertawe'n cynnwys adeilad Theatr y Palace a Neuadd Albert. Bwriedir ailwampio tai injans Vivian a Musgrave y Gwaith Copr hefyd.