Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeilad hanesyddol i'w achub gan y Cyngor a chwmni o Abertawe

Mae gwaith wedi dechrau wrth i gwmni adeiladu o Abertawe helpu i roi bywyd newydd i adeilad treftadaeth arall yn y ddinas.

Laboratory Building at Hafod-Morfa Copperworks

Laboratory Building at Hafod-Morfa Copperworks

Symudodd tîm o John Weaver Contractors, Glandŵr i safle Adeilad y Labordy, adeilad rhestredig Gradd 2 sy'n rhan o Waith Copr yr Hafod-Morfa yng Nghwm Tawe Isaf, ar 4 Tachwedd.

Sicrhaodd y cwmni'r contract i adnewyddu'r adeiledd hanesyddol ar ôl i Gyngor Abertawe hysbysebu'r cyfle.

Bydd y gwaith, y disgwylir iddo gymryd oddeutu 16 mis, yn trawsnewid yr adeilad fel ei fod yn addas i'w ddefnyddio fel bwyty neu at ddibenion eraill.

Credir bod yr adeilad yn dyddio o ail hanner y 1800au.

Mae'r prosiect yn rhan o raglen gwerth £1bn y Cyngor i adfywio'r ddinas ac mae'r gwaith ar Adeilad y Labordy yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Disgwylir i ystod o gynlluniau eraill yng Nghwm Tawe Isaf sydd wedi'u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro ddilyn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn achub Adeilad y Labordy fel y gellir ei ddefnyddio eto - ac rydym yn falch iawn mai busnes o Abertawe sy'n cyflogi pobl leol fydd yn ymgymryd â'r gwaith adeiladu.

"Mae safle'r gwaith copr yn rhan bwysig o dreftadaeth Abertawe ac yn elfen bwysig yn stori adfywio'r ddinas sy'n werth £1 biliwn. Yn ein barn ni, fe ddaw yn gyrchfan hamdden bwysig.

"Rydym wedi achub dau dŷ injan hanesyddol gerllaw i'w hailddatblygu a'u defnyddio yn y dyfodol, ac rydym wedi gosod pontŵn cychod ar afon Tawe gerllaw. Caiff cryn dipyn o gynnydd ei wneud ar ein Prosiect Cwm Tawe Isaf eleni a'r flwyddyn nesaf."

Bydd gwaith ar Adeilad y Labordy yn cynnwys sefydlogi'r adeiledd, ei adnewyddu mewn modd sensitif a sicrhau ei fod yn ddwrglos ac yn ddefnyddiadwy. Bydd to llechi Cymreig newydd, drysau a ffenestri allanol newydd, teras a mynediad gwastad i'r adeilad, gan ei wneud yn hygyrch i bawb.

Cyflogwyd GWP Architecture gan y Cyngor i wneud dyluniadau cychwynnol. Fel bwyty, gallai fod â lle i dros 100 o giniawyr.  Bydd y Cyngor yn cyflawni'r prosiect gyda Coreus Group.

Mae John Weaver Contractors yn gwmni teuluol gyda thros ganrif o brofiad yn y maes adeiladu.

Mae'r prosiectau treftadaeth y mae wedi gweithio arnynt yn cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian a Neuadd Brangwyn y ddinas, ynghyd â Chastell Caerffili, Castell y Gelli a Chastell Margam Port Talbot.

Meddai Terry Edwards, rheolwr gyfarwyddwr John Weaver, "Rydym falch o gael ein dethol fel y contractwr i adnewyddu Adeilad y Labordy.

"Mae ein crefftwyr medrus mewnol yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol.

"Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni prosiectau cadwraeth o safon i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau am flynyddoedd i ddod."

Yn oes aur y gwaith copr, roedd mwyn copr o bedwar ban byd yn cael ei fwyndoddi ar y safle hwn yn Abertawe, gan roi'r ardal yng nghanol gwe fyd-eang o gysylltiadau masnachu copr.

Mae'n debygol y defnyddiwyd Adeilad y Labordy i brofi ansawdd y mwyn copr a gyrhaeddai'r gwaith copr a helpodd i roi Abertawe ar fap diwydiannol y byd.

O ran pensaernïaeth, hwn yw'r adeilad mwyaf addurnol o'r holl adeiladau sy'n goroesi ar safle'r gwaith copr, ac mae ganddo lawer o nodweddion clasurol. Fodd bynnag, daeth yn adfeiliedig ac yn anniogel yn y blynyddoedd diweddar, a chollodd lawer o'i do.

Mae'r adeiledd dau a thri llawr, y mae ganddo ffenestri addurnol a ffrâm drws gerrig gain, yn sefyll drws nesaf i gatiau'r Morfa, a fu unwaith yn brif fynedfa i'r gwaith copr.

Mae'r caniatâd cynllunio sydd ganddo'n golygu y gall y Cyngor atgyweirio a gwella adeiladwaith presennol yr adeilad yn awr, ac atgyweirio ac adnewyddu'r elfennau allanol a mewnol allweddol yn llawn.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2024