Laserzone i ailagor mewn lleoliad newydd yng nghanol y ddinas
Mae Laserzone yn Abertawe yn ailagor mewn lleoliad gwahanol yng nghanol y ddinas y penwythnos hwn.
Bydd Laserzone, a oedd yn hen adeilad y Castle Cinema yn flaenorol, yn agor yn hen unedIceland yn St David's Place o ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.
Mae'r busnes wedi cael prydles dros dro gan Gyngor Abertawe i ddefnyddio'r adeilad nes i safle blaenorol Canolfan Siopa Dewi Sant gael ei adfywio yn y tymor hir.
Mae hen adeilad y Castle Cinema hefyd yn cael ei ailddatblygu.
Mae'r datblygwr o Gaerdydd Easy Living wedi sicrhau caniatâd cynllunio i drawsnewid yr adeilad yn gyfleuster newydd a fydd yn cynnwys fflatiau, swyddfeydd a bwyty.
Mae Laserzone yn gêm laser fyw dechnolegol soffistigedig a rhyngweithiol a gaiff ei chwarae mewn arena aml-lawr yn seiliedig ar thema, gydag effeithiau arbennig, niwl, pelydrau laser a cherddoriaeth.
Agorodd y lleoliad am y tro cyntaf yn Abertawe ym 1992.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd gan gannoedd ar filoedd o bobl atgofion melys o Laserzone, sydd bellach wedi bod yn gweithredu yn Abertawe ers dros dri degawd.
"Mae'n fusnes pwysig yng nghanol y ddinas ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Laserzone i ddod o hyd i gartref newydd i'r busnes, o ystyried y gwaith i ailddatblygu hen adeilad y Castle Cinema.
"Mae eu prydles dros dro yn uned blaenorol Iceland yn sicrhau bod y busnes yn aros yng nghanol y ddinas a bod hen adeilad a oedd yn arfer bod yn wag yn cael ei ddefnyddio eto.
"Pan fydd hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn cael ei ailddatblygu, byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda Laserzone i ddod o hyd i leoliad mwy parhaol iddynt yng nghanol y ddinas."
Mae'r gwaith i ailddatblygu hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â'r arbenigwyr adfywio Urban Splash.
Mae cynlluniau ar gyfer canolfan sector cyhoeddus eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer y safle, a bydd cyfle i bobl roi adborth am gynigion eraill ar gyfer yr ardal cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.