Ymwelwyr yn heidio i brif gyrchfannau chwaraeon a hamdden ein dinas
Mae ymwelwyr yn heidio i brif gyrchfannau chwaraeon a hamdden a gefnogir gan Gyngor Abertawe.


Mae niferoedd iach o gwsmeriaid yn ymweld â chanolfannau Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Plantasia ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Ac mae'r ysgubor chwaraeon newydd sbon a adeiladwyd gan y cyngor yng nghanolfan hamdden Cefn Hengoed wedi bod yn hynod boblogaidd gyda degau ar filoedd o bobl yn ei defnyddio yn ei blwyddyn gyntaf.
Roedd nifer yr ymwelwyr â chanolfan hamdden LC canol y ddinas a chyfleusterau hamdden cymunedol eraill Freedom Leisure wedi cynyddu i bron 1.9 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2023-24, gyda nifer y rheini a oedd yn defnyddio aelodaeth campfa yn codi 6.9%.
Roedd nifer yr ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy'n cynnig mynediad am ddim, wedi cynyddu mwy na 23% gyda 237,639 o bobl yn ymweld â'r amgueddfa i fwynhau ei straeon am dreftadaeth ddiwydiannol ein dinas.
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe wedi cynyddu ei incwm i dros £1.3 miliwn er bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng ychydig o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.Mae Plantasia, a gynhelir gan Parkwood Leisure, wedi croesawu mwy nag 111,000 o ymwelwyr, gan berfformio'n well nag eraill yn y diwydiant.
Ac er bod yr holl leoliadau'n wynebu heriau, yn enwedig gyda biliau ynni uchel a'r angen i barhau i gynyddu niferoedd ymwelwyr, dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod eu llwyddiant parhaus yn hanfodol.
Ar 10 Ebrill, gwnaeth y Cabinet adolygu adroddiad blynyddol ei bartneriaethau hamdden, gan edrych ar ffigurau ymwelwyr 2023-24 a pherfformiad ariannol sefydliadau yn y ddinas y mae'r cyngor yn eu cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Meddai'r Cynghorydd Francis-Davies, "Rydym yn parhau i fod yn gefn i'n partneriaid yn y gwasanaethau hamdden yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd ein dinas a'n cymunedau lleol.
"Gwnaethom bwysleisio hyn eto yng nghyfarfod cyllideb y cyngor y mis diwethaf, lle cytunwyd ar ein hymrwymiad i'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol."