Canolfannau hamdden Abertawe'n helpu'r amgylchedd i baratoi at y dyfodol
Mae canolfannau hamdden ar draws Abertawe'n helpu'r ddinas i leihau ei hôl troed carbon.
Mae lleoliadau poblogaidd fel yr LC a chanolfannau yn Llandeilo Ferwallt, Cefn Hengoed, Treforys, Pen-lan a Phenyrheol yn adrodd am ostyngiad mawr yn eu defnydd o ynni.
Cânt eu rheoli ar ran Cyngor Abertawe a dinasyddion gan yr ymddiriedolaeth elusennol nid er elw, Freedom Leisure.
Maent yn elwa o bartneriaeth gyda'r ymgynghoriaeth arbed ynni blaenllaw, Leisure Energy, ac o fuddsoddiad sylweddol mewn prosesau newydd a chyfarpar adeiladu.
Mae allyriadau carbon cyfleusterau hamdden Abertawe wedi gostwng bron 500 tunnell y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i dynnu 100 o geir oddi ar y ffordd neu gael gwared ar yr holl ynni y mae aelwyd arferol yn ei ddefnyddio am bron 40 o flynyddoedd.
Adlewyrchir y llwyddiant yn y cyfleusterau hamdden a weithredir ar draws y DU gan Freedom, wrth i'r cwmni weithio i leihau allyriadau a lleihau ei ddefnydd o nwy a thrydan. Mae'r sefydliad yn ceisio hybu'r ymdrechion hyn ymhellach.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Rydym yn gweithio i wneud Abertawe'n sero-net o ran carbon erbyn 2050 - rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac mae camau gweithredu fel hyn yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf wrth fy modd bod ein buddsoddiad mewn canolfannau hamdden lleol a'n partneriaeth â Freedom Leisure yn cynhyrchu canlyniadau mor gadarnhaol."
Meddai Ivan Horsfall-Turner, Prif Weithredwr Freedom Leisure, "Mae lleihau'r effaith amgylcheddol yn flaenoriaeth ar draws ein sefydliad. Rydym yn ymroddedig i fod yn ymwybodol yn gymdeithasol ac o'r amgylchedd, gan gyflwyno gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol - mae llwyddiant ein prosiectau yn Abertawe ac ardaloedd eraill, a'r gydnabyddiaeth maent yn eu chael, yn brawf o hynny."
Meddai Neil Bland, Rheolwr Gyfarwyddwr Leisure Energy, "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Freedom am oddeutu chwe blynedd, yn helpu gyda'u haddewidion effeithlonrwydd ynni, cynaladwyedd a datgarboneiddio; maent ar flaen y gad o ran lleihau carbon yn y sector hamdden."
Llun: Canolfan Hamdden Pen-lan.