Carole yn ymddeol ar ôl 50 mlynedd
Bob dydd Sadwrn pan oedd hi'n ferch ifanc, byddai Carole Billingham yn mynd gyda'i mam i'w llyfrgell leol i fenthyg llyfrau, ac roedd hi wrth ei bodd pan fyddai ei thad-cu'n darllen iddi gyda'r hwyr.
Sbardunodd awch am lenyddiaeth i blant sy'n parhau hyd heddiw, ond ar ôl 50 mlynedd yn gweithio fel llyfrgellydd yn y gwasanaeth llyfrgelloedd, a'r 48 mlynedd olaf yn yr adran i blant, mae hi'n ymddeol ar ddiwedd y mis.
Mae Carole yn wyneb cyfarwydd i lawer sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd i blant yn llyfrgelloedd Abertawe.
Mae ei chi, Stella, a gafodd ei hyfforddi fel ci Read2Dog pan oedd hi'n gi bach, hefyd yn gadael y gwasanaeth ar ôl helpu plant di-rif i ddarganfod llawenydd drwy ddarllen, drwy eistedd yn dawel wrth eu hymyl a gwrando arnyn nhw'n darllen iddi.
Un o'r newidiadau cadarnhaol mwyaf y mae Carole wedi'u gweld ystod ei gyrfa yw bod y llyfrgelloedd yn dod yn fwy cyfeillgar a chroesawgar i blant, gan gynnal digwyddiadau ac annog plant i ddarllen drwy fentrau fel Sialens Ddarllen yr Haf, sydd bellach yn ei 26ain flwyddyn.
Yn anffodus, mae Carole yn dweud mai un o'r newidiadau llai cadarnhaol yw'r dirywiad yn y 10 i 15 mlynedd diwethaf o ran plant yn darllen er pleser, gyda llai o blant yn ymweld ac yn benthyca llyfrau.
"Mae darllen, neu gael rhywun yn darllen i chi, mor bwysig, hyd yn oed pan yn fabi. Dydych chi ddim yn sylweddoli faint rydych chi'n ei elwa drwy ddarllen llyfr, neu drwy ganu rhigymau gyda'ch plentyn.
"Mae'n adeiladu geirfa, dychymyg a datblygiad emosiynol ac mae'n ymwneud â chael rhieni i siarad a meithrin perthynas glòs â'u plant."