Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Colofnau goleuo newydd sy'n newid lliw yn dangos y ffordd i'r arena

Bydd colofnau goleuo LED enfawr sy'n cynnwys y dechnoleg i newid lliw yn dangos y ffordd i Arena Abertawe i filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas cyn bo hir.

Copr Bay lighting columns

Copr Bay lighting columns

Mae chwech o'r colofnau goleuo wedi'u gosod - tair y tu allan i'r arena a thair ar ochr canol y ddinas o'r bont nodedig newydd sy'n croesi Oystermouth Road.

Mae'r colofnau hyn, sy'n 12 metr o uchder, yn rhan o ardal cam un Bae Copr y ddinas sy'n werth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, a disgwylir i Arena Abertawe agor ei drysau ym mis Mawrth.

Mae parc arfordirol 1.1 erw, fflatiau newydd, mannau parcio newydd a lleoedd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch hefyd yn rhan o gam un Bae Copr.

Mae'r cynllun a fydd yn werth £17.1 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe, yn cael ei gynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd. sy'n arwain y gwaith adeiladu.

Mae'r cyngor hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno setiau eraill o golofnau goleuo tebyg mewn mannau eraill yng nghanol y ddinas i greu llwybr goleuadau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y colofnau goleuo newydd ar ddwy ochr y bont newydd dros Oystermouth Road yn creu mwy fyth o dirnodau yng nghanol dinas Abertawe fel rhan o gynllun a fydd yn darparu adloniant a hamdden o'r radd flaenaf, gan helpu i godi proffil ein dinas ledled y DU a thu hwnt.

"Mae'r cyfuniad o golofnau goleuo newydd a'r cynllun goleuo wrth y bont yn golygu bod Abertawe yn barod ar gyfer rhai golygfeydd trawiadol yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, gyda'r cynllun hwn hefyd yn cynhyrchu cyflogaeth ac yn gweithredu fel catalydd am fuddsoddiad a thwf economaidd pellach.

"O gofio effaith barhaus y pandemig, mae'r cynnydd ar gam un Bae Copr wedi bod yn rhyfeddol wrth i ni nesáu at agoriad yr Arena ym mis Mawrth. Dylid canmol pawb sydd wedi bod yn rhan o hyn am eu gwaith diflino ar y prosiect rhagorol hwn."

Mae elfen yr Arena o gam un Bae Copr wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe - buddsoddiad o hyd at £1.3bn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

 

Close Dewis iaith