Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol gefnogol yn derbyn adroddiad canmoladwy gan arolygwyr

Mae ysgol gynradd yn Abertawe wedi derbyn marciau llawn gan arolygwyr sydd wedi canmol ei hamgylched tawel a chefnogol, lle mae plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel.

Llangyfelach Estyn Report

Llangyfelach Estyn Report

Roedd tîm o Estyn, a oedd yn cynnwys tri arolygwr, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Llangyfelach ym mis Mai, ac mae canlyniadau eu harolygiad newydd gael eu cyhoeddi.

Dywedon nhw fod staff ar draws yr ysgol yn gweithio'n galed i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion yn eu gwaith a'u datblygiad emosiynol a chymdeithasol.

Dywed yr adroddiad, "Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn gwneud cynnydd da ar draws yr ysgol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

"Mae ffocws cryf ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ym mhob dosbarth, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ac mae athrawon a staff cefnogi'n gweithio'n dda gyda'i gilydd i sicrhau bod disgyblion yn cyflawni'n dda wrth ddefnyddio'r sgiliau hyn.

"Mae ymddygiad drwy'r ysgol yn ganmoladwy. Mae bron pob disgybl yn falch o'i ysgol ac yn dangos agwedd cadarnhaol at ei waith."

Dywedodd yr arolygwyr fod gan y Pennaeth, Lee Burnell, weledigaeth gref ar gyfer yr ysgol a'i fod yn cael ei gefnogi'n dda gan ei uwch dîm a'i gydweithwyr.

Mae llywodraethwyr yn gweithio'n dda gyda'r tîm arweinyddiaeth i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Meddai'r Pennaeth, Mr Burnell, "Rwy'n falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod cyflawniadau cadarnhaol niferus yr ysgol ac mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled pawb sy'n ymwneud ag Ysgol Gynradd Llangyfelach."  

Close Dewis iaith