Ysgol fywiog a chynhwysol wedi'i hysbrydoli gan staff brwdfrydig
Mae Ysgol Gynradd Llanrhidian yn darparu amgylchedd bywiog a chynhwysol lle mae staff brwdfrydig yn ysbrydoli cyfranogiad mewn dysgu ac ym mywyd yr ysgol, yn ôl arolygwyr o Estyn.


Roeddent yn arbennig o falch o weld ymagwedd arloesol yr athrawon at gwricwlwm eang a gafaelgar, sy'n cynnig cyfleoedd dysgu go iawn sy'n gwella sgiliau bywyd disgyblion yn sylweddol, er enghraifft drwy'r Caffi Cynefin wythnosol.
Ymysg yr uchafbwyntiau eraill, cafodd pwyslais cryf ar weithgarwch corfforol ei arddangos, gan helpu disgyblion i feithrin eu sgiliau corfforol a deall pleser a buddion ymarfer corff.
Meddai Donna Caswell, y Pennaeth: "Rwyf wrth fy modd bod yr arolygwyr wedi cydnabod cyflawniadau gwych ein disgyblion a'n staff, sy'n cyflwyno cymaint o egni i'r ysgol bob dydd."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Dyma adroddiad pleserus iawn ac rwy'n llongyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Llanrhidian."