Gwaith dymchwel i ddechrau ar adeilad canol y ddinas
Mae gwaith bellach wedi dechrau i ddymchwel adeilad Llys Dewi Sant yng nghanol dinas Abertawe.
![Llys Dewi Sant](/image/8536/Llys-Dewi-Sant/standard.jpg?m=1656927527227)
![Llys Dewi Sant](/image/8536/Llys-Dewi-Sant/gi-responsive__100.jpg?m=1656927527227)
Defnyddiwyd yr adeilad, sydd wedi'i leoli yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant, fel swyddfa safle ar gyfer ardal Bae Copr sy'n werth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd Buckingham Group Contracting Ltd, sef prif gontractwr y cyngor ar gyfer cynllun Bae Copr, yn cynnal gwaith dymchwel Llys Dewi Sant.
Bydd gwaith tynnu rhannau mewnol yn digwydd yn yr adeilad cyn i'r prif waith dymchwel ddechrau, y disgwylir iddo gymryd oddeutu chwe wythnos i'w gwblhau.
Rhoddir hysbysfyrddau o gwmpas y safle, a bydd y rhain yn cael eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash a Milligan fel rhan o gynigion ehangach ar gyfer safle datblygu Gogledd Abertawe Ganolog yn y tymor hwy.
Unwaith y rhoddir cynigion manwl ar waith ar gyfer yr holl safle datblygu, trefnir bod digon o gyfleoedd ar gael i breswylwyr a busnesau lleol gyflwyno adborth a fydd yn helpu i lunio'r cynlluniau terfynol.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Arena Abertawe, y parc arfordirol a'r bont dirnod newydd dros Oystermouth Road bellach ar agor ac maent wedi creu cyrchfan hamdden newydd o safon ar gyfer preswylwyr a busnesau lleol, a buddsoddwyd miliynau o bunnoedd hefyd yn Wind Street a Ffordd y Brenin i roi hwb i'r ardal.
"Mae hyn eisoes wedi creu canol dinas well, ond mae gennym ragor o gynlluniau. Bydd dymchwel adeilad Llys Dewi Sant yn gam pwysig arall ymlaen gan y bydd yn paratoi'r ffordd am ailddatblygiad cyffrous yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant.
"Ynghyd â phrosiectau eraill sydd ar waith neu sydd ar ddod, bydd hyn yn creu mwy o swyddi i bobl leol, yn denu mwy o gwsmeriaid ar gyfer masnachwyr canol y ddinas, yn denu mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat ac yn creu cysylltiadau gwell rhwng canol y ddinas a Bae Copr, yr ardal forol a glan y môr."
Mae cynigion cynnar ar gyfer safle datblygiad Gogledd Abertawe Ganolog yn cynnwys swyddfeydd, gweithleoedd a rennir, fflatiau ac ardal newydd lle gall busnesau bach creadigol wneud a gwerthu eu cynnyrch.
Mae gwaith adeiladu ar y cyfadeilad byw fforddiadwy gerllaw â 33 o fflatiau ym Mae Copr, a fydd yn cael ei gynnal gan Grŵp Pobl hefyd ar fin cael ei gwblhau.