Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Angen barn ar gronfa ariannu Abertawe gwerth £41m

Mae'r cyngor yn galw am farn y cyhoedd ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio cyllid a fydd yn werth dros £41m i'r ddinas, sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Abertawe yn y tair blynedd nesaf.

swansea from the air1

swansea from the air1

Bydd ymatebion i arolwg ar-lein sydd bellach yn fyw yn https://www.abertawe.gov.uk/cronfaffyniantgyffredin yn helpu Cyngor Abertawe i ddatblygu cynllun buddsoddi lleol sydd â'r nod o fynd i'r afael ag anghenion y ddinas a gwneud y gorau o'i chyfleoedd.

Mae angen adborth gan breswylwyr a busnesau ar nifer o themâu allweddol erbyn 17 Gorffennaf. Mae'r rhain yn cynnwys cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun buddsoddi lleol yn helpu i lywio cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, sydd â'r nod o ryddhau £138m o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer y rhanbarth.

Disgwylir i Abertawe elwa o £34.4m o'r cyllid craidd hwn, yn ogystal â £7.2m pellach i wella sgiliau rhifedd oedolion.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw'r brif ffynhonnell cyllid Llywodraeth y DU sy'n disodli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop nad ydynt ar gael mwyach ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, er nad yw'n gyfan-gwbl yr un fath. 

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae llawer o sefydliadau ledled Abertawe wedi defnyddio cronfeydd yr UE felly gwyddom fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ein helpu i benderfynu sut y dylid defnyddio'r arian hwn dros y tair blynedd nesaf.

"Mae gan bobl a sefydliadau eraill eu barn eu hunain hefyd, a dyma pam rydym yn annog pawb i lenwi'r holiadur sydd ar gael ar wefan y cyngor.

"Dyma gyfle i helpu i benderfynu ar y ffordd orau o wario miliynau o bunnoedd i roi hwb i'n cymunedau, ein busnesau a'n sgiliau, felly hoffwn wahodd cynifer o bobl â phosib i ddweud eu dweud."

Bydd y cynllun buddsoddi rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst i'w gymeradwyo yn yr hydref.

Nid yw awdurdodau lleol wedi derbyn unrhyw arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin eto. Nid yw arweiniad manwl gan Lywodraeth y DU ar sut caiff yr arian ei ddosbarthu i brosiectau wedi'i gadarnhau eto, er ffefrir proses gystadleuol.

Close Dewis iaith