Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Arglwydd Faer yn lansio ymgyrch elusennol canser yn y farchnad

Mae Arglwydd Faer Abertawe'n defnyddio un o'i hoff lefydd i lansio ei hapêl er budd canolfan ganser y ddinas gyda chymorth rhai o'i ffrindiau.

Lord Mayor Charity Launch at Market

Lord Mayor Charity Launch at Market

Ddydd Sadwrn 11 Hydref, bydd The Phoenix Choir of Wales yn perfformio ym Marchnad Abertawe wrth i'r Cynghorydd Cheryl Philpott gychwyn ei hapêl Dim Ond Punt.

Bydd y seren radio a phantomeim Kev Johns yno hefyd.

Mae'r Cynghorydd Philpott yn defnyddio ei blwyddyn yn y swydd i helpu i godi £200,000 ar gyfer apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser Elusen Iechyd Bae Abertawe ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton.

Mae Canolfan Canser De-orllewin Cymru, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn darparu amrywiaeth o driniaethau'r GIG sy'n achub bywydau fel radiotherapi, cemotherapi ac imiwnotherapi a bydd yr holl arian a godir yn helpu i gefnogi cleifion, teuluoedd a staff.

Mae masnachwyr y farchnad wedi bod yn awyddus i gefnogi'r apêl a bydd gan lawer ohonynt flychau casglu yn eu stondinau trwy gydol yr ymgyrch codi arian.

Bydd y lansiad yn dechrau am hanner dydd ddydd Sadwrn ac mae gwahoddiad agored i bobl ddod iddo.

Meddai'r Cyng. Philpott, "Roedd fy uchelgeisiau pan ddes i'n Arglwydd Faer yn cynnwys codi cymaint o arian â phosib ar gyfer Canolfan Canser De-orllewin Cymru a'r llall oedd helpu i hyrwyddo ein marchnad dan do wych ac rwy'n falch iawn o gyfuno'r ddau ohonynt er mwyn lansio apêl Dim ond Punt.

"Yn ogystal â'r blychau casglu, byddaf hefyd yn cynnal digwyddiadau elusennol a bydd pob ceiniog a godir yn mynd i Ganolfan Canser De-orllewin Cymru."

Meddai Lewis Bradley, Rheolwr Elusen Iechyd Bae Abertawe, "Rydym mor gyffrous bod yr Arglwydd Faer yn cefnogi apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser drwy ymgyrch Dim ond Punt. Mae'n gyfle gwych i ledaenu'r gair yn lleol ac annog pobl i gymryd rhan ynddi."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2025