Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect newydd yng Nghwm Tawe Isaf yn cael hwb ariannol o £20 miliwn

Mae prosiect mawr newydd a fydd yn diogelu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe, rhoi bywyd newydd i goridor afon Tawe a chreu swyddi a buddsoddiad wedi cael hwb ariannol o £20 miliwn.

River Tawe corridor

River Tawe corridor

Mae prosiect mawr newydd a fydd yn diogelu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe, rhoi bywyd newydd i goridor afon Tawe a chreu swyddi a buddsoddiad wedi cael hwb ariannol o £20 miliwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cais codi'r gwastad gan Gyngor Abertawe ar gyfer y prosiect, sy'n bwriadu adfywio Cwm Tawe Isaf.

Mae'r prosiect yn cynnwys tair elfen:

  • Adfer mwy fyth o nodweddion treftadaeth safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, yn dilyn yr holl waith a wnaed ar y safle eisoes.
  • Gwella cysylltiadau rhwng afon Tawe a safle'r gwaith copr, wrth hefyd ddatblygu cysylltiadau gwell rhwng y safle a chanol y ddinas.
  • Uwchraddio a gwella Amgueddfa Abertawe, gan wella mynediad a'r profiad i ymwelwyr, gyda mwy o fannau arddangos a dysgu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar yr holl waith a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf i helpu i ddiogelu safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa y ddinas ymhellach, a hefyd greu mannau arloesol ar gyfer busnesau lleol, cyfleoedd gwaith newydd i bobl leol a chysylltiadau gwell rhwng y safle a chanol y ddinas.

"Bydd y prosiect, sy'n helpu i roi bywyd newydd i goridor afon Tawe, yn hybu statws Abertawe fel cyrchfan treftadaeth, gan sicrhau bod ein hanes diwydiannol cyfoethog yn parhau i gael ei ddathlu am flynyddoedd i ddod."

Mae'r cyngor hefyd wedi gwneud cais am arian codi'r gwastad ar gyfer prosiectau i adfywio canol y ddinas ymhellach, gwella isadeiledd Fabian Way a hybu Porth Einon fel cyrchfan i ymwelwyr. Nid oedd y ceisiadau hynny'n llwyddiannus

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023