Toglo gwelededd dewislen symudol

MALlC 2025

Gwybodaeth o Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025.

Cyhoeddwyd MALlC 2025 gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 27 Tachwedd 2025.  Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth fanwl o'r Mynegai, gan gynnwys y safleoedd ar gyfer ardaloedd lleol yn Abertawe ac arweiniad ar y data.

Mae MALlC yn defnyddio daearyddiaeth Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel ei uned adrodd, sy'n rhannu Cymru i 1,917 ardal ystadegol wahanol â phoblogaethau rhwng 1,000 a 3,000. Mae 150 ACEHI yn Abertawe a cheir rhagor o wybodaeth a mapiau yma.

Mae MALlC yn cynnwys wyth parth (neu fath) ar wahân o amddifadedd: incwm; cyflogaeth; iechyd; addysg; mynediad i wasanaethau; tai; diogelwch cymunedol ac amgylchedd ffisegol.  Mae pob parth yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddangosyddion.

Caiff gwybodaeth am Fynegai 2025 a'r canlyniadau allweddol ar gyfer Abertawe eu crynhoi mewn nodyn briffio ar y dudalen hon yn y man.

Yn MALlC 2025, mae 20 (13.3%) o'r 150 ACEHI Abertawe yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sydd ychydig yn uwch na'r gyfran gyffredinol yn 2019.  Rhestrir y rhain isod (safle Cymru, 1-191 mewn cromfachau):

  • Penderi 1   (11)
  • Penderi 4   (13)
  • Townhill 2   (19)
  • Townhill 3   (20)
  • Townhill 1   (26)
  • Y Castell 1   (30)
  • Penderi 3   (36)
  • Townhill 6   (43)
  • Townhill 5   (51)
  • Treforys 5   (62)
  • Mynydd-bach 1   (71)
  • Y Castell 9   (80)
  • Bon-y-maen 1   (95)
  • Penderi 2   (102)
  • Penderi 5   (124)
  • Treforys 9   (142)
  • Y Cocyd a Waunarlwydd 1   (156)
  • Penderi 6   (160)
  • Treforys 7   (171)
  • Y Cocyd 8   (191).

Hefyd ar gael ar y dudalen hon y mae tabl crynhoi o MALlC a safleoedd parth ar gyfer 150 ACEHI Abertawe a ffeiliau'n cynnwys safleoedd llawn ACEHI yng Nghymru ac Abertawe. 

MALlC 2019 Safle ACEHI Abertawe (PDF, 297 KB)

MALlC 2019 Cymru (Excel doc, 243 KB)   (Llywodraeth Cymru)

MALlC 2019 Abertawe (Excel doc, 34 KB)   (Llywodraeth Cymru)

Cyhoeddir y data dangosydd MALlC, a gyfunir i greu'r maes a safleoedd cyffredinol y Mynegai, gan LlC yn fuan. 

Mae safleoedd MALlC 2019 (a chynharach) ar gael ar gais.  Fodd bynnag, ni ddylid cymharu sgoriau amddifadedd Mynegai 2019 yn uniongyrchol â'r rhai cynharach, oherwydd rhesymau methodolegol gan gynnwys newidiadau sylweddol ym mharthau a dangosyddion y mynegai dros amser.

Os hoffech fwy o wybodaeth neu ddata o'r MALlC, cysylltwch â ni.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2025