Data Dangosyddion MALlC
Data dangosyddion blynyddol o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Fel rhan o'i allbynnau 2019 MALlC, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r data dangosyddion ardaloedd lleol a ddefnyddiwyd i lunio'r mynegai.
Mae amrywiaeth eang o ddata ar gael, gyda phob dangosydd MALlC - a restrir isod - yn cael ei gynnwys mewn un o'r wyth parth amddifadedd: Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad at Wasanaethau, Tai, Diogelwch Cymunedol a'r Amgylchedd Ffisegol. Mae gwybodaeth bellach am bob un o'r dangosyddion a ddefnyddir yn MALlC 2019 ar gael yn y rhestr atodedig o barthau a dangosyddion (PDF) [471KB].
Mae'r ffeiliau data a gynhwysir ar y dudalen hon yn cynnwys ystadegau dangosyddion MALlC 2019 sydd ar gael ar gyfer 148 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) Abertawe ac ardaloedd daearyddol eraill; gan gynnwys Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG - 31 yn Abertawe), y tair Ardal Etholaethol leol, ardal awdurdod lleol Abertawe a Chymru.
Er bod y mynegai ei hun yn cael ei gyhoeddi bob tair i bum mlynedd, caiff data'r dangosyddion ei ddiweddaru fel arfer bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, cyn belled ag y bo modd - gan ddibynnu ar argaeledd data ac adnoddau. Fodd bynnag, nid yw cynlluniau cyhoeddi diweddariadau yn y dyfodol wedi'u cadarnhau eto.
Os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth bellach neu ddata lleol gan MALlC, gan gynnwys data dangosyddion ar gyfer blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ni.
- Pobl mewn amddifadedd incwm (%)
- WPobl oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth (%)
- Diagnosis o gyflwr cronig a gofnodwyd gan feddyg teulu (cyfradd fesul 100)
- Salwch Hirdymor Cyfyngol (cyfradd fesul 100)
- Marwolaethau cynamserol (cyfradd fesul 100,000)
- Diagnosis o gyflwr iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddyg teulu (cyfradd fesul 100)
- Nifer yr achosion o Ganser (cyfradd fesul 100,000)
- Pwysau Geni Isel, Genedigaethau Sengl (genedigaethau byw sy'n llai na 2.5 Kg) (%)
- Plant 4-5 oed sy'n Ordew (%)
- Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen
- Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 2
- Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer Pynciau Craidd
- Absenoldeb Mynych (%)
- Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 yn mynd i Addysg Uwch (%)
- Oedolion 25-64 oed Heb Gymwysterau (%)
Mynediad at wasanaethau (Excel doc) [171KB]
- Diffyg argaeledd canrannol band eang ar 30Mb/e (%)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i fferyllfa (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i siop fwyd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i feddygfa (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i swyddfa'r post (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i ysgol gynradd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i gyfleuster chwaraeon (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog cyhoeddus i ysgol uwchradd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i fferyllfa (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i siop fwyd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i feddygfa (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i swyddfa'r post (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i ysgol gynradd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i lyfrgell gyhoeddus (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i gyfleuster chwaraeon (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i ysgol uwchradd (munudau)
- Amser teithio dwyffordd cyfartalog preifat i orsaf betrol (munudau)
- Pobl sy'n byw mewn cartrefi gorlawn (%)
- Y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (%)
- Y tebygolrwydd o dai sy'n cynnwys peryglon difrifol (%)
- Y tebygolrwydd o dai sydd mewn cyflwr gwael (%)
Diogelwch Cymunedol (Excel doc) [81KB]
- Difrod Troseddol a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
- Troseddau Treisgar a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
- Bwrgleriaethau a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
- Achosion o Ddwyn a Gofnodwyd gan yr Heddlu (cyfradd fesul 100)
- Digwyddiadau Tân (cyfradd fesul 100)
Amgylchedd Ffisegol (Excel doc) [79KB]
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Nitrogen deuocsid
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 10 µm
- Gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi'i bwysoli gan y boblogaeth ar gyfer Gronynnau < 2.5 µm
- Sgôr Perygl Llifogydd
- Sgôr ar gyfer agosrwydd at Fan Gŵyr dd Naturiol Hygyrch (%)
- Sgôr ar gyfer Mannau Gŵyr dd Amgylchol.