Prosiect amddiffynfeydd môr yn creu cyfleoedd gwaith newydd
Mae datblygiad proffil uchel wedi creu cyfleoedd gwaith i gannoedd o bobl, gan gynnwys rhai yn dysgu sgiliau newydd pwysig.


Mae hyd at 100 o weithwyr, gan gynnwys isgontractwyr, yng ngweithlu Knights Brown sy'n gyfrifol am brosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls.
Yn eu plith, mae gweithwyr a gyflogir gan y cwmni yn ystod cyfnod y cynllun.
Unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, bydd y morglawdd wedi'i gryfhau a'r prom gwell yn diogelu'r gymuned am genedlaethau i ddod ac yn denu miloedd lawer o ymwelwyr.
Meddai Porsche Demery, prentis peiriannydd sifil 18 oed o Dreforys, "Rwy'n gyffrous i fod yn rhan o'r diwydiant adeiladu, mae ganddo ystod eang o swyddi ac mae'n helpu pobl i ddatblygu ystod eang o sgiliau."
Meddai Brandon Worth, prentis syrfëwr meintiau 22 oed o Bort Talbot, "Mae fy rôl gyda Knights Brown wedi caniatáu i mi gael effaith go iawn ar y cynllun arfordirol hwn."
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor, "Mae'n wych gweld sgiliau gwaith newydd yn cael eu datblygu ar ein prosiect yn y Mwmbwls. Mae'n dangos bod cymunedau lleol yn elwa o'r cynllun."
Meddai Andrew Eilbeck, Cyfarwyddwr Adrannol Knights Brown,"Rydym yn falch o'n hymrwymiad i brentisiaethau; rydym yn ymrwymedig i feithrin doniau lleol a chynnig cyfleoedd gwerthfawr i unigolion ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y diwydiant."
Mae tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter y cyngor, sy'n helpu i gyflwyno buddion ychwanegol o gontractau'r cyngor, hefyd wedi rhoi cymorth o ran staffio i gwmni Knights Brown. Mae'r cymorth yn cynnwys prentisiaethau, swyddi a phrofiad gwaith i breswylwyr Abertawe.
Disgwylir i brosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls gael ei gwblhau'r haf hwn.
Ei nod yw diogelu'r gymuned, cartrefi, busnesau, sefydliadau, cyfleusterau a digwyddiadau ar lan y môr rhag lefelau môr cynyddol ac erydu arfordirol.
Mae'r prom wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Llun: Porsche Demery a Brandon Worth, prentisiaid Knights Brown.